Cafodd y ddau gerdddwr eu hachub o ardal Tryfan
|
Cafodd dau gerddwr eu hachub o fynydd yn Eryri nos Sul ar ôl iddynt anfon llun o'u lleoliad o ffôn symudol. Sylweddolodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen fod y ddau mewn rhigol ar fynydd Tryfan. Dywedodd llefarydd ar ran y tîm, Chris Lloyd: "Mae anfon llun yn syniad defnyddiol fel y gallwn ni ddod o hyd i bobl." Mewn digwyddiad arall, aed â beiciwr mynydd i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn damwain yn ardal Dolgellau ddydd Sul. Cafodd y beiciwr ei gludo o goedwig Coed y Brenin i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gan hofrennydd yr awyrlu o'r Fali. Nid yw ei anafiadau yn rhai difrifol.
|