British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 7 Mehefin 2011, 10:28 GMT 11:28 UK
Ysbyty: Swyddogion i archwilio

Adeilad hen Ysbyty Gogledd Cymru
Mae angen diogelu'r adeilad, yn l y cyngor

Bydd swyddogion cyngor yn archwilio safle hen ysbyty seiciatryddol Gogledd Cymru oherwydd pryder ynglŷn â chyflwr yr adeilad rhestredig.

Dywed Cyngor Sir Ddinbych eu bod wedi cyflwyno rhybudd ffurfiol i gwmni Fremont (Denbigh), perchnogion yr hen ysbyty yn nhre Dinbych.

Mae'r rhybudd yn caniatáu swyddogion y cyngor i ymweld â'r safle o fewn y pythefnos nesa heb ganiatâd y perchnogion.

Dywed y cyngor mai'r bwriad yw gwneud rhan pwysica'r adeilad yn ddiogel a rhwystro difrod gan yr elfennau.

Byddant hefyd yn gosod ffens ddiogelwch o amgylch y safle.

"Mae yna bryder cynyddol am y safle sydd yn adeilad rhestredig gradd II, meddai Phil Ebbrell, pensaer cadwriaethol y sir.

"Er gwaeth sawl cais mae'r perchnogion wedi methu â gwneud gwaith cynnal a chadw fyddai'n atal dirywiad pellach.

Ysbyty Meddwl Dinbych
Cafodd yr ysbyty ei adeiladu yn 1844

"Doedd gan y cyngor ddim dewis ond i ddefnyddio pwerau sy'n gwarchod adeiladau rhestredig i sicrhau fod gwaith angenrheidiol yn cael ei wneud."

Cafodd yr adeilad ei godi ym 1844, gan gynnig gwasanaeth i gleifion seiciatryddol gogledd Cymru.

Fe gaeodd yr ysbyty ym 1995 a cafodd y safle ei brynu gan gwmni Freemont o Preston.

Bwriad gwreiddiol y cwmni oedd codi 280 o dai ond cafodd y cais cynllunio ei wrthod.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r lle wedi cael ei ddifrodi gan fandaliaid a thân.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific