British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Mehefin 2011, 05:38 GMT 06:38 UK
Llys yn gwyrdroi gwaharddiad i ddymchwel pafiliwn

Pafiliwn Corwen
Fe gafodd y Pafiliwn ei gau flwyddyn yn ôl

Mae gwaharddiad i atal Pafiliwn Corwen rhag cael ei ddymchwel wedi cael ei wyrdroi gan lys yn dilyn cais gan Gyngor Sir Ddinbych.

Llwyddodd grŵp o ymgyrchwyr i sicrhau'r gwaharddiad ym mis Ebrill.

Mae ganddyn nhw tan Orffennaf 1af i ymateb.

Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych mi fyddai'n costio £500,000 i adnewyddu'r adeilad a gafodd ei gau flwyddyn yn ôl oherwydd ei gyflwr.

Does gan y cyngor ddim yr arian i wneud hynny.

Ond mae'r ymgyrchwyr yn dweud y gallen nhw wneud y gwaith am £50,000.

Mae'r pwnc wedi rhannu'r dref.

Gwariant

Cafodd y pafiliwn ei adeiladu gydag arian pobl gyffredin yr ardal 100 mlynedd yn ôl.

Roedd yn safle i gynnal digwyddiadau i hybu diwylliant Cymraeg.

Ond yn fuan wedi'r Ail Ryfel Byd cafodd ei drosglwyddo i'r awdurdod lleol.

Ers hynny does 'na ddim gwariant sylweddol wedi bod ar yr adeilad.

Y llynedd fe wnaeth Cyngor Dinbych ei gau am ei fod yn berygl i'r cyhoedd ac maen nhw am ei ddymchwel.

Dywedodd Sian Parry, ar ran Pwyllgor Pafiliwn Pobl Edeirnion, ei fod yn adeilad pwysig iawn ac mae 'na gnewyllyn o bobl wnaiff unrhyw beth i'w achub.

"Mae'n bafiliwn i'r bobl, pafiliwn i'r gymuned Gymraeg.

"Fan hyn oedd y sin roc Gymraeg, fan hyn ddaeth o'n fyw."

Eisteddfodau

Ond dydi pawb ddim yn cytuno.

Dywedodd un nad oedd am ei enwi nad oedd o'n fodlon "eistedd mewn sied".

Cafodd Eisteddfod yr Urdd gyntaf ei chynnal yno yn 1929 ac roedd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yno yn 1919.

"Rydan ni eisiau lle cynnes all bobl leol fforddio mynd yno i weld cyngherddau," meddai Esmor Davies, adeiladwr lleol sydd am achub yr adeilad.

Ond mae'r cyngor sir yn dweud mai'r opsiwn gorau yw dymchwel yr adeilad presennol a chynorthwyo'r gymuned i sefydlu ymddiriedolaeth i godi adeilad llai o faint.

Mae'r cyngor wedi rhoi mwy o amser i'r grŵp ymgyrchu ymateb ar ôl i lys wyrdroi'r gwaharddiad ddydd Gwener.

Bydd mwy am y stori yma ar raglen Manylu BBC Radio Cymru nos Lun am 6pm.



HEFYD
Pafiliwn: Cyngor yn ystyried apelio
02 Ebr 11 |  Newyddion
Dymchwel Pafiliwn Corwen
25 Maw 11 |  Newyddion
Holi ac ateb am ddymchwel pafiliwn
01 Tach 10 |  Newyddion
Cais i ddymchwel pafiliwn
23 Hyd 10 |  Newyddion
Pafiliwn: Dyfodol newydd?
03 Awst 10 |  Newyddion
Pafiliwn: 200 mewn cyfarfod
08 Ebr 10 |  Newyddion
Pafiliwn: 'Y ffordd ymlaen'
05 Maw 10 |  Newyddion
Cau Pafiliwn Corwen
03 Maw 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific