British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Mehefin 2011, 05:45 GMT 06:45 UK
Cychwyn gwaith ar bwll nofio Harlech

Pwll nofio Harlech
Mae'r gymuned wedi llwyddo i gadw'r pwll ar agor

Mae'r gwaith wedi dechrau ar brosiect £1 miliwn i adnewyddu pwll nofio Harlech.

Fe ddaeth grŵp cymunedol yn gyfrifol am reolaeth y pwll ym mis Rhagfyr.

Maen nhw'n gobeithio gosod wal ddringo newydd yno, gosod caffi a gwella'r adnoddau yn yr adeilad er mwyn cynyddu'r elw.

Ond mae gwirfoddolwyr wedi dweud ei bod yn bwysicach nag erioed i'r cyhoedd ddefnyddio'r pwll er mwyn sicrhau na fydd yn wynebu bygythiad eto.

Gwaith caled

Cyngor Gwynedd oedd yn arfer bod yn gyfrifol am y pwll.

Nawr mae'r gwirfoddolwyr wedi sicrhau grantiau gan y Loteri a Llywodraeth Cymru i wella ac i gynnal y safle.

"Mae'n waith caled, mae'r gwirfoddolwyr a'r cyfarwyddwyr yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod hyn yn mynd i weithio," meddai Trevor Gennard, cyfarwyddwr Harlech and Ardudwy Leisure, y cwmni cymunedol sy'n rheoli'r adeilad.

"Rydym yn gwneud hyn yn ychwanegol at ein gwaith bob dydd.

"Mae'n allweddol bod y gymuned yn defnyddio'r pwll."

Dywedodd fod y gymuned yn gwbl gefnogol.

"Rydym angen i bobl ddod yma.

"Dydi'r dyfodol ddim yn saff eto, mae angen iddo dalu ffordd."



HEFYD
Achub pwll nofio unwaith eto?
01 Rhag 10 |  Newyddion
Achub pwll nofio unwaith eto?
11 Tach 10 |  Newyddion
Pwll nofio i gau wedi'r cwbl?
01 Hyd 10 |  Newyddion
Dyfodol newydd i bwll nofio
09 Gorff 10 |  Newyddion
Pwll nofio: Buddugoliaeth
14 Gorff 09 |  Newyddion
Cau pyllau nofio: Protestio
19 Ebr 09 |  Newyddion
Pwll nofio: Cyflwyno deiseb
23 Mai 08 |  Newyddion
Pwll nofio Harlech i gau
05 Rhag 07 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific