British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 5 Mehefin 2011, 10:16 GMT 11:16 UK
Y bocsiwr Gavin Rees yn bencampwr Ewrop

Gavin Rees
Cafodd Gavin Rees ei goroni yn bencampwr is-drwm Ewrop yng Nghaerdydd

Cafodd y bocsiwr Gavin Rees o Drecelyn ei goroni yn bencampwr is-drwm Ewrop nos Sadwrn.

Fe wnaeth cyn-bencampwr WBA y byd guro'r Gwyddel Andrew Murray ar bwyntiau yn Arena Motorpoint Caerdydd.

Doedd Murray ddim wedi cael ei guro o'r blaen.

Cychwynnodd Rees yn gryf cyn ennill mantais ac ennill yn gyfforddus yn ail hanner y gystadleuaeth.

Cafodd sgôr o 115-112; 115-112 a 116-112.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific