British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 5 Mehefin 2011, 09:26 GMT 10:26 UK
Cyhoeddi enw dynes 66 oed gafodd ei llofruddio

Car heddlu yn Arberth, Sir Benfro
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth

Mae enw dynes 66 oed gafodd ei llofruddio yn Sir Benfro wedi cael ei gyhoeddi.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys mai corff Angelika Dries-Jenkins gafodd ei ganfod yn ardal Providence Hill o Arberth ddydd Gwener.

Maen nhw wedi dweud y gallai fod wedi cael ei lladd unrhyw bryd yn ystod yr wythnos diwethaf.

Cafodd yr ardal gerllaw ei gau gan yr heddlu ddydd Sadwrn wrth i'r heddlu ymchwilio.

'Gwybodaeth allweddol'

Maen nhw'n apelio am wybodaeth gan bobl leol.

Mae disgwyl i'r heddlu rhyddhau mwy o wybodaeth am Mrs Dries-Jenkins a'r drosedd ddydd Sul.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Pam Kelly eu bod yn awyddus i gael "gwybodaeth allweddol".

Maen nhw'n apelio ar unrhyw un welodd rhywun, rhywrai neu rywbeth amheus yn ystod yr wythnos hyd at ddydd Gwener Mehefin 3 i gysylltu gyda nhw.

"Rydym yn pwysleisio bod digwyddiadau o'r fath yn rhywbeth prin yn yr ardal ac mae'r sir yn un o siroedd mwya diogel yng Nghymru a Lloger."

Os oes ganddoch chi wybodaeth fe ddylech chi gysylltu gyda'r heddlu ar 101.



HEFYD
Arberth: Cyhoeddi enw dynes
05 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific