British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 5 Mehefin 2011, 12:24 GMT 13:24 UK
'Wythnos hwyliog yn Abertawe' i drefnwyr yr Urdd

Ymwelwyr ar Faes yr Eisteddfod
Roedd dros 90,000 wedi ymweld a'r maes dros yr wythnos

Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru wedi diolch i bobl ardal Abertawe a'r Fro am eu cefnogaeth i'r Brifwyl.

Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd iddo gael "wythnos hwyliog" yn Felindre.

Roedd nifer yr ymwelwyr, dros 90,000, yn is na'r flwyddyn cynt ond mae'r trefnwyr yn pwysleisio nad drwy nifer yr ymwelwyr yn unig y mae mesur llwyddiant .

"Rydym wedi cael wythnos hwyliog iawn yma yn Abertawe a'r Fro ac unwaith eto, mae miloedd o blant a phobl ifanc wedi cael llwyfan arbennig i arddangos eu doniau a'r cystadlu wedi bod o'r safon uchaf," meddai Mr Siôn.

Diolchiadau

"Mae miloedd wedi tyrru i'r Maes yma yn Felindre a hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr lleol am eu gwaith, i'r holl athrawon a hyfforddwyr sydd wedi bod wrthi'n ddyfal dros y misoedd diwethaf yn dysgu'r plant a'r bobl ifanc ac i'r rheiny fu'n cystadlu.

"Mae'r elfennau yma'n hanfodol i bob Eisteddfod ac mae ein diolch yn fawr iddyn nhw."

Cafwyd llwyddiant ym mhob un o'r prif seremonïau ac roedd canmol mawr i'r sioeau yn ogystal.

Dywed Dyfrig Ellis, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe a'r Fro, ei fod hefyd yn ddiolchgar i'r tîm gweithgar o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio ers sawl blwyddyn i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod.

'Llongyfarch'

"Ar ôl y gwaith caled, roedd gweld cynifer o blant a phobl ifanc yn dod i'r Maes i gystadlu a mwynhau yn wefreiddiol.

"Hoffwn ddymuno'n dda iawn i Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eryri 2012, Meriel Parry a'r criw ar y gwaith o baratoi at Eisteddfod y flwyddyn nesaf."

Dywed Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod: "Cyn edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd Eryri y flwyddyn nesaf, mae'n briodol i ni longyfarch y rhai sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod eleni.

"Mae'r Maes wedi bod yn fwrlwm dyddiol o blant a phobl ifanc yn mwynhau a dyna yw hanfod yr ŵyl hon."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific