British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 4 Mehefin 2011, 15:50 GMT 16:50 UK
Cymru'n colli i'r Barbariaid yn y funud olaf

George North yn croesi am gais cyntaf Cymru
George North gafodd cais cyntaf Cymru ar l 10 munud

Cymru 28-31 Barbariaid

Colli oedd hanes Cymru yn y funud olaf yn erbyn Y Barbariaid yn Stadiwm y Mileniwm.

Er bod gan Gymru gapten newydd, Sam Warbourton, Stephen Jones gafodd y fraint o redeg ar y cae gyntaf wrth iddo ennill ei 100fed cap a hynny i fonllefau o gymeradwyaeth.

Cafwyd munud o dawelwch ar ddechrau'r gêm cyn yr anthem i gofio'r rhai a fu farw yn y ffrwydrad ym mhurfa olew Chevron ym Mhenfro nos Iau.

Wedi ymgais cynnar gan Gymru roedd 'na gamgymeriadau roddodd gyfle i'r Barbariaid.

Ond Cymru gafodd y pwyntiau cyntaf wrth i Gavin Henson basio'r bêl yn amheus i George North wnaeth sgorio ar ôl 10 munud.

Ond chwe munud yn ddiweddarach fe gafodd y Barbariaid gais ar ôl rhyng-gipiad Mike Phillips ac fe sgoriodd Iosefa Tekori.

Ymwelwyr ar y blaen

Cais arall wedyn i'r ymwelwyr o fewn pum munud wrth i Ica Nacewa groesi.

Ond daeth Cymru yn ôl gyda Morgan Stoddart yn rhyng-gipio a rhedeg dros 50 llall i groesi heb i neb ei rwystro.

Stephen Jones
Roedd Stephen Jones yn ennill ei 100fed cap yn y gm

Llai na 10 munud cyn yr egwyl fe wnaeth Sergio Parisse groesi i gael trydydd cais y Barbariaid.

Ar yr hanner roedd yr ymwelwyr, oedd yn cynrychioli 10 o wledydd, oedd ar y blaen o 14-19.

Roedd Cymru i lawr i 14 dyn ar ôl i Aled Brew daclo Paul Sackey'n uchel dri munud ar ôl dechrau'r ail hanner.

Ond munud yn ddiweddarach roedd y Barbariaid i lawr i 14 dyn ar ôl i Tekori gael cerdyn melyn am drosedd.

Wedi sawl ymdrech gan Gymru fe wnaeth Mike Phillips groesi am gais.

Ar ôl gweithio'n galed daeth cais i Aled Brew a Stephen Jones yn trosi i roi Cymru 9 pwynt ar y blaen cyn i Jones gael ei eilyddio.

Ond cafodd Mathieu Bastereaud gais cyntaf y Barbariaid yn yr ail hanner saith munud cyn diwedd y gêm.

Ac ym munud ola'r gêm, fe wnaeth y Barbariaid groesi ar gyfer cais wnaeth selio'r fuddugoliaeth.

Wrth i Stephen Jones ennill ei 100fed cap roedd 'na ddau arall yn ennill eu capiau cyntaf, Ryan Bevington a Toby Faletau

Yn nhîm y Barbariaid yr oedd 'na ddau Gymro, Martyn Williams ac Iestyn Thomas yn dechrau'r gêm ac roedd un o chwaraewyr y Gleision, Paul Tito, yn nhîm yr ymwelwyr hefyd.

Alain Rolland o Iwerddon oedd y dyfarnwr.

Roedd y gêm yn rhan o penblwydd Undeb Rygbi Cymru yn 130 oed.

Fel rhan o'r dathliadau hefyd y mae'r ddwy gêm arall yng Nghaerdydd ym mis Awst yn erbyn Lloger a'r Ariannin a fydd hefyd yn rhan o baratoadau Warren Gatland ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd ym mis Medi.



HEFYD
100fed cap i Stephen Jones
04 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific