Bydd cyfle i'r ieuenctid gael blas o'r Wladfa
|
Fe fydd 21 o bobl ifanc yn cael mynd ar daith i Batagonia mewn cydweithrediad ag Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru. Fe fydd y daith bythefnos ym mis Hydref. Yn ystod y misoedd nesaf fe fydd y bobl ifanc yn gorfod cynnal gweithgareddau lleol er mwyn codi £2,000 yr un tuag at y daith. Caiff yr ieuenctid gyfle hefyd i gyfarfod tair gwaith er mwyn dod i adnabod ei gilydd yn well. Fe fydd y cyfarfod cyntaf yng Ngwersyll Glan-llyn yn sesiwn adeiladu tîm. Bydd yr ail gyfarfod yn cynnwys taith gerdded i fyny Carnedd Gwenllian ac yn ystod y trydydd cyfarfod cynhelir asado, sef barbeciw Archentaidd, yn Nyffryn Conwy. Dyma fydd y bedwaredd flwyddyn i'r Urdd a Mentrau Iaith Cymru gydweithio yn trefnu taith o'r fath. Helpu a chsytadlu Mae swyddogion y Fenter Iaith ym Mhatagonia yn cynorthwyo efo'r trefniadau. Ar hyn o bryd y ddau sydd ym Mhatagonia yw Lois Dafydd ac Iwan Madog a fydd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau i'r bobl ifanc tra ym Mhatagonia.
Fe fydd yr ieuenctid yn cael cyfle i gymryd rhan yn Eisteddfod Y Wladfa
|
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r bobl ifanc wedi cael cyfle i wneud gweithgareddau megis ail-beintio ysgolion, helpu mewn ysgolion meithrin a chystadlu yn Eisteddfod y Wladfa. Mae Manon Elwyn Hughes o Fethel ger Caernarfon yn edrych ymlaen yn fawr at y daith. "Mae'r ffaith fod yr iaith Gymraeg yn bodoli mewn gwlad mor bell yn Ne America yn codi blys arnaf i fynd yno ac i gael y profiad o weld drosof fy hun pa mor wahanol yw hi yno i Gymru fach," meddai. Profiad "Rwy'n hoff o ieithoedd felly mi fydd cymharu sut mae'r bobl o Batagonia'n siarad ein hiaith a sut mae'r iaith wedi datblygu yno o gymharu â ni yn ddiddorol iawn. "Mae'n anhygoel fod iaith fechan, gyda dim ond 600,000 o bobl yn ei siarad yng Nghymru, i'w chlywed mewn cyfandir hollol wahanol ochr arall i'r byd." Un o'r bobl ifanc gafodd gyfle i fynd i Batagonia llynedd oedd Kate Walters o Ysgol Gartholwg, Pontypridd. "Fy mwriad wrth wneud cais oedd dysgu am hanes y Wladfa a phrofi'r iaith a'r traddodiadau draw yno. "Mi wnes i brofi'r rhain i'r eithaf ond hefyd rwy wedi cael gwneud a dysgu llawer mwy ar ben hynny. "Mae profi'r iaith Gymraeg ym Mhatagonia wedi rhoi sbardun i mi i'w defnyddio llawer mwy adre. "Roedd yn brofiad na fyddwn i byth wedi gallu ei gael yn annibynnol!" Cyd-weithio Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Rydym yn hynod o falch fel mudiad o allu rhoi cyfleoedd a phrofiadau gwahanol i aelodau'r Urdd. "Mae hwn yn gyfle gwych iddynt brofi diwylliant unigryw Patagonia, a dysgu am hanes chwedlonol y wlad. "Rydym yn falch o allu cyd-weithio gyda Mentrau Iaith Cymru a Menter Iaith Patagonia i gynnig y cyfle unigryw hwn i bobl ifanc Cymru." Y 21 person ifanc fydd yn mynd ar y daith yw Manon Elwyn Hughes, Bronwen Price a Gethin Griffiths o Ysgol Brynrefail, Llanrug ger Caernarfon; Sian Parry a Sioned Wyn Jones o Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn; Anest Evans, Manon Roberts, Ceri Lewis a Lora Thomas o Goleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli; Catrin Euron Lewis, Catrin Eilwen Davies a Beca Glyn o Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst; Bethany Juckes-Hughes a Steffan Rhys Hughes o Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy; Lois Morus o Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam; Nia Shaw, Erin Owain, Ifan Dafydd Jones, Rhiannon Thomas a Catrin Donnelly o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun ac Angharad Bryant o St Paul's Girls School, Llundain Fe fydd y daith rhwng Hydref 18 a Thachwedd 1 2011.
|