British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 4 Mehefin 2011, 09:48 GMT 10:48 UK
100fed cap i Stephen Jones

Stephen Jones
Mae Stephen Jones yn ennill ei 100fed cap dros Gymru yn erbyn Y Barbariaid

Cymru v Y Barbariaid
Stadiwm y Mileniwm
Dydd Sadwrn Mehefin 4 am 2.30pm

Wrth wynebu'r Barbariaid yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn fe fydd maswr Cymru Stephen Jones yn ennill ei 100fed cap.

Mae hynny'n golygu mai ef ynghyd a Gareth Thoams sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros eu gwlad.

Ac mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dweud wrth Gymro arall, Martyn Williams, bod rhaid iddo "ymladd am yr hawl i gyrraedd y 100".

Fe fydd Williams yn nhîm y Barbariaid ddydd Sadwrn ac mae o ddau gap yn brin o'r 100 dros Gymru.

STEPHEN JONES
1996-2004: Chwarae i Llanelli/Scarlets
1998: Gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn De Affrica
2004-2006: Chwarae i Clermont Auvergne
2005: Cynrychioli'r Llewod yn Seland Newydd
2005: Ennill y Gamp Lawn gyda Chymru
2005/6: Cael ei enwi yn faswr y flwyddyn gan newyddiadurwyr Ffrainc yn ei ail flwyddyn yno
2006 - : Chwarae i'r Scarlets
2006: Capten Cymru am 8 gêm
2008: Ennill y Gamp Lawn gyda Chymru
2009: Cynrychioli'r Llewod yn Ne Affrica
2011: Ennill ei ganfed cap dros Gymru yn erbyn y Barbariad

Ond dywedodd Gatland na fyddai'n ei ddewis dros Gymru er mwyn iddo gyrraedd y 100 gan y byddai hynny "yn dibrisio gwerth y crys a'r hyn y mae Martyn wedi ei wneud i rygbi Cymru".

Fe wnaeth Williams ei 98fed ymddangosiad dros Gymru yn erbyn Seland Newydd ym mis Tachwedd.

Bydd cyfle iddo ennill dau gap arall cyn Cwpan y Byd gan y bydd Cymru yn wynebu Lloegr a'r Ariannin ym mis Awst.

Ond bydd dydd Sadwrn yn achlysur arbennig i Stephen Jones wrth iddo chwarae ei 100fed gêm dros ei wlad.

Mae Jones wedi chwarae dros Gymru a'r Llewod ac yn chwarae i glwb y Scarlets.

Cafodd gyfnod yn Ffrainc yn chwarae i Clermont Auvergne am ddau dymor.

Mae'r gêm ddydd Sadwrn yn cael ei chyfri fel un rhyngwladol - gan ganiatáu'r capiau - er mwyn nodi penblwydd Undeb Rygbi Cymru yn 130 oed.

Fel rhan o'r dathliadau hefyd y mae'r ddwy gêm arall yng Nghaerdydd ym mis Awst yn erbyn Lloger a'r Ariannin a fydd hefyd yn rhan o baratoadau Gatland ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd ym mis Medi.

Mae capiau wedi cael eu rhoi ddwywaith o'r blaen i chwaraewyr Cymru oedd yn herio'r Barbariaid, yn 1990 ac yn 1996 - pan gafodd Williams ei gap cyntaf.

Un sy'n ôl yng ngharfan Cymru yw'r canolwr Gavin Henson.

Fe fydd yn cynrychioli Cymru am y tro cynta' ers dros ddwy flynedd.

Does ganddo ddim clwb ar ôl i Toulon ei ryddhau y mis diwethaf.

Yn ogystal â Williams mae'r Cymro Iestyn Thomas yn nhîm y Barbariad.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific