British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 4 Mehefin 2011, 11:14 GMT 12:14 UK
Yr Urdd yn anelu am Eryri

Cyflwyniad gan blant Eryri yn croesawu pawb i'r ardal ar gyfer yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf
Cyflwyniad gan blant Eryri yn croesawu pawb i'r ardal ar gyfer yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf

Fe ddaw Eisteddfod yr Urdd Abertawe a'r Fro 2011 i ben ddydd Sadwrn ar ôl wythnos lwyddiannus ar y safle ger Felindre.

Wedi wythnos o fwynhau yn yr ardal fe fydd y golygon yn troi tuag at Eryri.

Bu criw o blant a phobl ifanc o Goleg Meirion Dwyfor ac ysgolion cynradd Eryri yn croesawu'r Eisteddfod i'r ardal ddydd Gwener.

Fe fydd yr Eisteddfod ar dir Coleg Meirion Dwyfor Glynllifon ger Caernarfon rhwng Mehefin 4 a 9 2012.

Gorymdaith

Mae'r gwaith o godi arian drwy amryw weithgareddau eisoes wedi cychwyn yno.

Yn ddiweddar yn ystod yr ŵyl gyhoeddi fe wnaeth tua 5,000 o gefnogwyr yr Urdd orymdeithio drwy strydoedd Caernarfon i'r Castell.

"Mae pobl Eryri yn edrych ymlaen yn fawr at afael yn yr awenau a chroesawu'r Eisteddfod i'r ardal yn 2012," meddai Meriel Parry, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri a Phrifathrawes yn Ysgolion Tregarth a Bodfeurig, ger Bangor.

"Wedi Gŵyl Gyhoeddi wych yng Nghaernarfon ym mis Ebrill mae'r brwdfrydedd yn heintus ac mae yna archwaeth i ddatblygu ar hwyl a gweithgaredd yr ŵyl.

"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr sy'n gweithio ar hyd a lled yr ardal yn cynnal gweithgareddau hwyliog i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod.

"Bydd yma ŵyl i'w chofio yn 2012 ac edrychwn ymlaen at groesawu Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i Eryri fis Mehefin nesaf.

"Wrth gwrs, 'rydym yn llawn sylweddoli fod gwaith caled o'n blaenau rhwng 'rŵan a'r ŵyl ond mae criw gwych o wirfoddolwyr yn cydweithio'n dda ac mae plant a phobl ifanc yr ardal yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous," ychwanegodd.

Eisteddfod Gofiadwy

Un o'r pethau gafodd ei lansio ar gyfer codi arian at yr Eisteddfod yw CD o farddoniaeth ac alawon gwerin sy'n cynnwys cân newydd wedi ei chyfansoddi gan Myrddin ap Dafydd ar y cyd ag Aelwyd Gwrtheyrn.

Enw'r gan yw 'Steddfod y Glyn ac mae'n cael ei berfformio gan yr Aelwyd a Catrin a Mirain Evans.

Dywed Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei fod yn edrych ymlaen at flwyddyn o gydweithio gyda'r criw yn Eryri.

''Hoffwn ddiolch i Meriel Parry a'r tîm am eu gwaith caled ac edrychwn ymlaen at gydweithio ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, Eryri 2012.

"Mae safle'r Maes eisoes wedi ei benderfynu a'r cydweithio rhwng yr Urdd a Choleg Meirion Dwyfor Glynllifon wedi dechrau.

"Edrychwn ymlaen at Eisteddfod gofiadwy arall yn 2012."

Cafodd yr ŵyl ei chynnal ar dir Glynllifon yn 1990.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific