British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 3 Mehefin 2011, 17:54 GMT 18:54 UK
Priodferch wedi ymladd am ei bywyd

Ben a Catherine Mullany
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu lladd ar ddiwrnod olaf eu mis mÍl

Clywodd llys yn Antigua ei bod yn bosib fod Catherine Mullany wedi ceisio rhwystro lladron cyn cael ei saethu'n farw mewn gwesty.

Dywedodd meddyg ei bod yn ymddangos fel petai Mrs Mullany wedi bod yn ymladd cyn iddi gael ei lladd.

Roedd Dr Oritta Zacharia yn rhoi tystiolaeth yn ystod achos Avie Howell, 20 oed, a Kaniel Martin, 23 oed, yn Uchel Lys Antigua.

Mae'r ddau yn gwadu llofruddio Mrs Mullany a'i gŵr Ben o Gwm Tawe yng Ngwesty Cocos yng Ngorffennaf 2008.

Roedd Mr a Mrs Mullany ar eu mis mêl ar y pryd.

Mae'r ddau ddiffynnydd hefyd yn gwadu llofruddio Woneta Anderson, 43 oed, perchennog siop leol.

Dywedodd Dr Zacharia iddi gyrraedd y gwesty tua 6.40am ar Orffennaf 27, 2008.

Anaf bwled

Erbyn iddi gyrraedd roedd corff Mrs Mullany, 31 oed, wedi dechrau sythu.

Dywedodd fod yna gleisiau diweddar ar ei chorff.

"Yn fy marn i mae'n ymddangos ei bod hi wedi bod yn cwffio cyn iddi farw."

"Roedd hi ar ei chefn, ac roedd ei breichiau a'i choesau fel petai yn ceisio amddiffyn ei chorff.

"Ar ochr dde ei phen roedd yna olion anaf bwled.

"Roedd lliw ei chroen yn laslwyd.

"Wrth droi'r corff fe gafwyd hyd i weddillion bwled ger ei thraed."

Aed â Mr Mullany, 31 oed, i'r ysbyty a'i roi ar beiriant cynnal bwyd.

Lluniau

Bu farw wythnos yn ddiweddarach ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Clywodd y llys dystiolaeth hefyd gan Richard Bowen, brawd Mrs Mullany.

Dywedodd fod y cwpl "yn gwneud popeth gyda'i gilydd".

Yn y llys fe ofynnwyd iddo adnabod dau lun.

Dywedodd fod y cynta o'i chwaer - oedd newydd gymhwyso i fod yn feddyg - yn cerdded ci eu rhieni ger eu cartre ym Mhontardawe.

Yr ail lun oedd un o'i ffrind agos Mr Mullany yn gwisgo siwt priodas.

Roedd y cwpl ar ddiwrnod ola eu mis mêl pan ymosodwyd arnyn nhw yn eu hystafell wely.



HEFYD
Llys: Cwpl yn "ffrindiau mynwesol"
03 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Dim clo ar y glwyd'
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis mÍl: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis mÍl: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific