British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 2 Mehefin 2011, 14:26 GMT 15:26 UK
Eisteddfodwyr i fwynhau doniau Jay

Jay Worley
Mae Jay yn gobeithio astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd

Er i lanc ifanc o Bontypridd fethu yn ei ymdrech i ennill lle yn rownd derfynol y rhaglen deledu Britain's Got Talent fe fydd e'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Ddydd Gwener.

Bydd Jay Worley, 18, o'r Beddau yn cystadlu yng nghystadlaethau'r côr a chystadleuaeth parti llefaru ar ran Ysgol Gyfun Garth Olwg.

Dychwelodd Jay o Lundain ddydd Iau ar ôl ymddangos yn un o rowndiau cynderfynol y sioe dalent boblogaidd nos Fercher.

Canodd ei fersiwn o Use Somebody gan Kings of Leon.

Er fy mod i'n teimlo braidd yn siomedig ar hyn o bryd rwy'n edrych ymlaen at gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Ddydd Gwene
Jay Worley

Roedd e'n cystadlu yn erbyn naw act arall ar raglen fyw a gafodd ei darlledu ar ITV1.

Dywedodd ei fod yn hapus gydag ymateb beirniaid y rhaglen, sef Simon Cowell, Michael McIntyre, Amanda Holden a David Hasselhoff, er iddo fethu cyrraedd rownd derfynol y sioe dalent boblogaidd fydd yn cael ei chynnal nos Sadwrn.

Paul Potts

"Rwy'i ar ben fy nigon am fy mod i wedi cael cyfle i berfformio'n fyw ar raglen deledu, rwyf wedi byw'r freuddwyd, fel maen nhw'n dweud," meddai Jay, sydd newydd sefyll ei arholiadau Safon Uwch mewn Hanes, Drama, Cerddoriaeth a Chymraeg.

Jay Worley
Mae Jay wedi cystadlu yn eisteddfodau'r Urdd ers iddo fod yn 8 oed

"Roeddwn i'n teimlo bod fy mherfformiad yn ddigon da i ennill lle yn y rownd derfynol.

"Er fy mod i'n teimlo braidd yn siomedig ar hyn o bryd rwy'n edrych ymlaen at gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Gwener," meddai Jay, sy'n gobeithio dilyn cwrs actio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd ym mis Medi.

Y digrifwr Les Gibson a'r dawnsiwr ifanc James Hobley a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth a enillodd y canwr Paul Potts o Bort Talbot yn 2007.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific