British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 2 Mehefin 2011, 10:37 GMT 11:37 UK
Mis mÍl: Tystiolaeth parafeddyg

Ben a Catherine Mullany
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu lladd ar ddiwrnod olaf eu mis mÍl

Ar Ynys Antigua mae'r Uchel Lys wedi bod yn gwrando ar dystiolaeth parafeddyg gafodd ei galw i westy moethus ble'r oedd cwpwl o Gymru wedi eu saethu.

Disgrifiodd Loretta Ephraim yr olygfa erchyll a oedd yn ei hwynebu yn ystafell Catherine a Ben Mullany, gan ddweud fod Ben wedi ceisio siarad â hi ond doedd dim modd iddi ei ddeall.

Mae Avie Howell a Kaniel Martin yn gwadu llofruddio'r pâr priod o Gwm Tawe.

Dywedodd Loretta Ephraim ei bod hi wedi darganfod Mrs Mullany yn gorwedd yn ddifywyd ar y llawr, a'i gŵr mewn safle tebyg ar y gwely, a hynny am 6.15am.

"Pan aethon ni i mewn, sylwais ar waed a rhwydi mosgitos dros y gwely," meddai wrth y llys.

"Roedd dyn ar y gwely a menyw yn gorwedd ar y llawr wrth ymyl y gwely.

"Roedd y fenyw yn gorwedd yn llonydd ar y llawr. Roedd ei llygaid ar agor, yn llydan ar agor, ond nid oedd yn symud."

'Ddim yn deall'

Disgrifiodd geisio helpu Mr Mullany: "Tra roeddwn yn ceisio rhoi rhwymyn am ei ben... fe geisiodd e ddweud rhywbeth ond doeddwn i ddim yn gallu deall beth oedd e'n ei ddweud".

Clywodd y llys bod y pâr wedi cael eu saethu gan ddefnyddio'r un gwn a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach i saethu perchennog siop lleol, Woneta Anderson.

Cafodd y dyn 43 oed ei ladd mewn ymosodiad "bron union yr un fath" y mis nesaf, dywedodd yr erlynydd Anthony Armstrong.

"Cafodd pob un o'r tri eu saethu yn y pen. Fe'u saethwyd gan ddefnyddio un fwled, dim mwy, dim llai," meddai Mr Armstrong.

"Cafodd y tri eu lladd gan ddefnyddio'r un gwn."

Wrth gloi ei araith agoriadol, dywedodd Mr Armstrong wrth y rheithgor: "Peidiwch ag ofni canlyniadau eich penderfyniad."

Cafodd Ben a Catherine Mullany, o Bontardawe ger Abertawe, eu saethu yn eu gwesty ar ddiwrnod olaf eu mis mêl.

Ar Orffennaf 27 2008 y cafodd y ddau eu saethu, bythefnos ar ôl eu priodas.

Cafodd y ddau eu claddu ym mynwent yr eglwys lle wnaethon nhw briodi ychydig dros fis yn gynharach.

Mae Mr Howell a Mr Martin yn gwadu'r cyhuddiadau ac mae disgwyl i'r achos bara am ddau fis.



HEFYD
Mis mÍl: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific