Mae 'na fisoedd anodd wedi bod i S4C
|
Fe fyddai S4C yn agored i ymyrraeth wleidyddol pe byddai Llywodraeth Prydain yn pasio Mesur Cyrff Cyhoeddus. Dyna farn Archesgob Cymru Dr Barry Morgan. Mi fyddai'r mesur yn cynyddu pwerau gweinidogion i newid y ffordd mae S4C yn cael ei rhedeg. Mae Dr Morgan wedi amlinellu ei bryderon mewn llythyr at y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg. Yn y llythyr mae Dr Morgan yn gofyn i'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio yn erbyn y cymalau sy'n effeithio ar S4C. Dywedodd Llywodraeth San Steffan "nad oedd S4C yn gynaliadwy yn y ffurf presennol". 'Gwŷr doeth' Mae'r mesur eisoes wedi bod drwy Dŷ'r Arglwydd ac mae disgwyl i'r mesur gael ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin yn fuan. Mae Dr Morgan hefyd yn cynnig cyfarfod rhyngddo fo, Yr Arglwydd Elystan Morgan a chyn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, John Elfed Jones gyda Mr Clegg.
Mr Dr Barry Morgan am gyfarfod Nick Clegg
|
Mae'r syniad yn adlais o gyfarfod yn 1980 rhwng Yr Arglwydd Cledwyn Hughes; cyn-Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Syr Goronwy Daniel a rhagflaenydd i Dr Morgan, Gwilym Williams. Aeth y tri i gyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Cartref Willie Whitelaw gan eu disgrifio fel y "tri gŵr doeth". Maen nhw'n cael eu gweld fel rhai allweddol i berswadio Llywodraeth Margaret Thatcher i newid meddwl a sefydlu S4C. "Mae S4C wedi profi i fod yn llwyddiant cymdeithasol a diwylliannol," meddai Dr Morgan. Ymyrraeth wleidyddol "Ni ddylai'r problemau diweddar guddio'r ffaith bod gan bobl Cymru falchder yn y sianel. "Os na fydd y cymalau sy'n ymdrin ag S4C yn cael eu dileu o'r mesur fe fydd y sianel yn colli ei hannibynniaeth a 40% o'i chyllid. "Fydd 'na ddim sicrwydd am y modd y bydd y sianel yn cael ei hariannu ar ôl 2015. "Fe fydd yn amhosib cynllunio ar gyfer dyfodol darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg, os yn wir y bydd 'na ddyfodol.
"Pan gafodd S4C ei sefydlu gyntaf, cafodd ei warchod gan ddeddfwriaeth nad oedd 'na ymyrraeth wleidyddol ond bydd pasio'r mesur fel y mae yn gwrthwneud hyn." O 2013 ymlaen fe fydd S4C yn cael ei hariannu gan y BBC yn rhannol o'r drwydded deledu. Yn gynharach yn y mis fe wnaeth Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddweud bod y penderfyniad hwnnw wedi ei wneud "ar fyrder". Mae S4C yn wynebu toriad o 25% yn ei chyllideb. Dros y flwyddyn ddiwethaf fe adawodd Iona Jones fel prif weithredwr ac fe adawodd John Walter Jones oedd yn gadeirydd awdurdod y sianel. Cyn-Brif Weithredwr y sianel, Huw Jones, yw'r ffefryn i fod yn gadeirydd nesaf yr awdurdod. Ym mis Mawrth fe wnaeth cyn-arweinydd Plaid Cymru, Yr Arglwydd Wigley, gynnig gwelliant i'r mesur yn Nhŷ'r Arglwyddi. Fe wnaeth y llywodraeth lwyddo i drechu'r gwelliant. Cyfraniad Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, bod y llywodraeth wedi ymroi i ddyfodol rhaglenni Cymraeg ac i ddyfodol S4C fel gwasanaeth teledu Cymraeg gref ac annibynnol. "Rydym yn derbyn statws eiconig y sianel a'r cyfraniad y mae'n ei wneud i fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru," meddai'r llefarydd. "Dydi'r ffurf bresennol ddim yn gynaliadwy a dyna pam bod y llywodraeth wedi dod i'r casgliad mai'r ffordd orau o sicrhau dyfodol S4C a pharhau i gynnig gwasanaethau gorau yw drwy bartneriaeth gyda'r BBC. "Mae'r adran diwylliant, S4C ac Ymddireidolaeth y BBC yn cyd-weithio ar strwythur rheoli a fydd yn sicrhau y bydd S4C yn parhau yn wasanaeth annibynnol, gyda'i hunaniaeth ei hun a'i golygyddiaeth ei hun." Fe wnaeth S4C wrthod gwneud sylw.
|