British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011, 14:22 GMT 15:22 UK
Myfyrwraig yw prif ddramodydd yr Urdd

Elin Gwyn
Elin Gwyn enillodd Fedal Drama Eisteddfod yr Urdd

Elin Gwyn yw Prif Ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Abertawe a'r Fro.

Un o Sling ger Bethesda yw Elin sy'n gwneud doethuriaeth mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd y beirniaid, Manon Eames and Tim Baker, bod gwaith Elin, Gwagle, yn ddrama gyda sefyllfa draddodiadol ond bod 'na dro annisgwyl iddi.

Tasg y saith wnaeth gystadlu oedd cyfansoddi drama lwyfan un act 40-60 munud.

Yn ôl y beirniaid roedd y ceisiadau i gyd yn fyr ond fel "dramodydd meistrolgar o ran ei deialog" gallai Elin ddatblygu'r ddrama.

Opera

"Hon oedd yr unig ddrama wnaeth ein cyffwrdd ni fel beirniaid yn emosiynol," meddai Manon Eames o'r llwyfan.

Aeth Elin i Ysgol Dyffryn Ogwen ac i Brifysgol Caerdydd i astudio llenyddiaeth Saesneg.

Graddiodd y llynedd a maes ei doethuriaeth ydi cyfraniad cyfraniad diwylliedig y diwydiant llechi yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol.

Y llynedd roedd hi'n arweinydd uwch-adran Yr Urdd ym Methesda ac mae hi wedi ennill Tlws Llên yr Ifanc a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.

"Ysgrifennais y geiriau ar gyfer opera dwyieithog am Twm Siôn Cati a gafodd ei pherfformio yng Nghastell Caerffili mis Ebrill eleni," meddai.

"Dwi wastad wedi bod wrth fy modd yn gwylio a darllen dramâu a hoffwn sgriptio yn y dyfodol.

"Mae ennill Y Fedal Ddrama yn sicr o roi hwb imi barhau i ysgrifennu."

Gwilym Dwyfor Parry, Aelod Unigol o Gaerdydd oedd yn ail a Llŷr Titus, Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli yn drydydd.

Rhoddwyd y fedal gan Bwyllgor Rhanbarth yr Urdd Gorllewin Morgannwg, a noddwyd y seremoni heddiw gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mwy o hanes llwyddiant Elin Gwyn yma




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific