British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011, 16:00 GMT 17:00 UK
Henson a dau gap newydd yn nhm Cymru

Gavin Henson
Does gan Gavin Henson ddim clwb ar hyn o bryd

Cymru v Y Barbariaid
Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd
Dydd Sadwrn Mehefin 4 2.30pm.

Mae dau gap newydd yn nhîm rygbi Cymru fydd yn wynebu'r Barbariaid ddydd Sadwrn.

Ond mae'n debyg y bydd mwy o sylw'n cael ei roi i hen ben sy'n dychwelyd, gan fod Gavin Henson yn ôl yn y tîm a fydd yn chwarae ddydd Sadwrn.

Y ddau enw newydd yw Ryan Bevington - prop Y Gweilch - a Toby Faletau sy'n chwarae rheng ôl i'r Dreigiau.

Mae Faletau, 20 oed, yn wreiddiol o Tonga, ond symudodd i Gymru yn saith oed pan ddaeth ei dad i chwarae rygbi i Lyn Ebwy.

Enillodd wobr chwaraewr ifanc y flwyddyn yng Nghynghrair Magners ar ôl cyfres o berfformiadau da i'r rhanbarth.

Dim ond pum gêm y dechreuodd Bevington i'r Gweilch yng Nghynghrair Magners y tymor diwethaf, ond mae'r prop 22 oed yn cael ei ystyried fel un o sêr y dyfodol.

Mae bob un o'r 15 yn chwarae i ranbarthau Cymru heblaw am Henson, sydd heb glwb ar hyn o bryd wedi i Toulon ei ryddhau y mis diwethaf.

Bydd Henson yn bartner i Jonathan Davies yng nghanol yr olwyr i Gymru wrth i Jamie Roberts gael gorffwys.

Ond mae'n gyfle i Henson wneud ei farc ar y maes rhyngwladol ar ôl cyfnod cythryblus iawn.

Fe fydd Stephen Jones yn ennill ei 100fed cap dros Gymru ddydd Sadwrn hefyd.

Tîm Cymru i wynebu'r Barbariaid :-

15. Morgan Stoddart (Scarlets)

14. George North (Scarlets)

13. Jonathan Davies (Scarlets)

12. Gavin Henson (heb glwb)

11. Aled Brew (Dreigiau)

10. Stephen Jones (Scarlets)

9. Mike Phillips (Gweilch)

1. Ryan Bevington (Gweilch)

2. Huw Bennett (Gweilch)

3. Paul James (Gweilch)

4. Luke Charteris (Dreigiau)

5. Ryan Jones (Gweilch)

6. Dan Lydiate (Dreigiau)

7. Sam Warburton (Gleision)

8. Toby Faletau (Dreigiau)



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific