British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011, 09:36 GMT 10:36 UK
Ymgyrch Cymru i atal yfed a gyrru

Prawf anadl yr heddlu
Yn ystod ymgyrch 2010 fe fethodd 513 gyrrwr y prawf anadl yng Nghymru

Mae heddluoedd Cymru yn lansio ymgyrch i annog pobl i beidio yfed alcohol a gyrru yn ystod yr haf.

Dywed yr heddlu nad oed "unrhyw esgus" am yrru ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.

Bydd yr ymgyrch y bydd yn cael ei lansio yng Nghaernarfon heddiw yn bwriadu cosbi gyrwyr sy'n peryglu bywydau pobl trwy yrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Mae'r heddlu'n benderfynol o ddal y rheiny sy'n mynnu mynd y tu ôl i'r llyw pan na ddylen nhw.

Os ydych chi'n mynd i yfed, trefnwch lifft neu llogwch dacsi i fynd adref
Gareth Pritchard, Prif Gwnstabl Cynorthwyol

Yn ystod ymgyrch 2010 fe gafodd 14,194 o brofion eu gwneud ar yrwyr yng Nghymru a methodd 513 o'r rhai a holwyd y prawf.

Bydd unrhyw un sy'n cael eu dal yn cael eu gwahardd rhag gyrru am gyfnod, eu carcharu neu gael eu dirwyo hyd at £5,000.

Barbiciw

Mae gweithgareddau traddodiadol yr haf fel barbiciw a phartïon yn arwain at gynnydd yn yr adegau y mae pobl yn yfed alcohol ac maen nhw'n aml dros yr hyn a ganiateir cyn gyrru.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Nick Croft: "Does dim esgus o gwbl i bobl yfed a gyrru ac mae'r canlyniadau yn gallu bod yn ddifrodus iawn.

"Nid yn unig y gallwch chi ladd eich hunan neu anafu eich hunan yn ddifrifol ond gallwch chi ladd rhywun arall hefyd.

"Yn ogystal y byddwch chi'n gorfod mynd i'r llys ac os cewch chi eich dyfarnu'n euog o drosedd yfed a gyrru y byddwch chi'n fe gewch i'ch gwahardd rhag gyrru am o leiaf blwyddyn, mynd i'r carchar neu ddirwy hyd at £5,000."

Miloedd

Mae disgwyl i filoedd o yrwyr gael eu stopio yn ystod mis o ymgyrch.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Pritchard y dylai pobl sy'n mynychu barbiciw neu yn yfed mewn tafarndai feddwl sut y byddan nhw'n cyrraedd adref y noson honno.

Ychwanegodd: "Os ydych chi'n mynd i yfed, trefnwch lifft neu llogwch dacsi i fynd adref.

"Y dewis arall yw peidio yfed o gwbl.

"Bydd plismyn Cymru yn benderfynol i arestio'r bobl hynny sy'n dewis yfed neu gymryd cyffuriau cyn gyrru."

Bydd Ymgyrch yr Haf yn Erbyn Yfed a Gyrru a Gyrru dan Ddylanwad Cyffuriau Cymru Gyfan yn cael ei lansio am 11am Ddydd Mercher, Mehefin 1 ar y Maes yng Nghaernarfon.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific