British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011, 09:06 GMT 10:06 UK
Thus: Meddyginiaeth ddoeth

Thus
Mae'r gymuned Somali wedi defnyddio thus fel meddyginiaeth ers cyn cof

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi troi at oes y Beibl i chwilio am driniaeth i grud y cymalau.

Mae'n bosib mai'r ateb yw thus yn ôl gwyr doeth y brifysgol - meddyginiaeth lysieuol o'r oes a fu.

Bu'r gwyddonwyr yn astudio buddion posib thus wrth geisio lliniaru'r boen a gwella symptomau cryd cymalau.

Arweinydd yr ymchwil yw Dr Emma Bain, a dywedodd: "Mae'r dasg o chwilio am ffyrdd o drin cryd cymalau yn un anodd a hir.

Moleciwlau

"Mae gan Gymru gysylltiad hir gyda'r gymuned Somali sydd wedi defnyddio thus fel meddyginiaeth lysieuol draddodiadol i drin cyflyrau cryd cymalau.

"Mae ein hymchwil wedi canolbwyntio ar weld os ydi'r thus yn gallu trin y llid sy'n achosi'r boen."

Mae'r gwyddonwyr yn credu eu bod wedi gallu dangos fod math prin o thus - Boswellia frereana - yn rhwystro moleciwlau sy'n achosi'r llid gan arwain at gryd cymalau.

Gwaith ymchwil ar y cyd yw hwn rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste fel rhan o gynllun arbennig SARTRE - Severnside Alliance for Translational Research.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific