Fe fydd Eurig Salisbury wrth y llwy am ddwy flynedd
|
Eurig Salisbury yw Bardd Plant Cymru 2011. Mae'n olynu Dewi Pws a bydd yn y swydd am y ddwy flynedd nesaf. Fe enillodd Eurig gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2006 yn Ninbych. Mae o wedi cyhoeddi dwy gyfrol, Llyfr Glas Eurig ac yn ddiweddar cyfrol o farddoniaeth plant, Sgrwtsh! Cafodd y bardd plant cyntaf, Myrddin ap Dafydd, ei benodi yn 2000. Wrth gyflwyno'i olynydd dywedodd Dewi Pws ei fod wedi cael blwyddyn hyfryd yn cyd-weithio gyda'r plant ar hyd a lled Cymru. Y Beirdd Bach Cafodd Eurig ei enwi yn fardd plant Cymru ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe. Dywedodd ei fod eisiau gweld sut y gall ddefnyddio technoleg fodern i hybu barddoniaeth ymhlith plant. Bydd yn parhau i ymweld ag ysgolion a chynnal gweithdai. Gan ei fod yn cael dwy flynedd wrth y llys dywedodd y bydd yn rhoi cyfle iddo ehangu ar gynlluniau a hybu diddordeb plant wrth drin geiriau. Mae'n edrych ymlaen at weithio efo "beridd bach" gan ei fod yntau wedi bod yn un unwaith. "Dwi am ddiolch yn fawr am yr anrhydedd enfawr i fod yn Fardd Plant Cymru am ddwy flynedd nesaf." Mewn cerdd aeth ymlaen i ddweud ei fod "wrth ei fodd i edrych ymlaen at gydweithio gyda beirdd bach Cymru". "Dwi ar ben fy nigon, dwi wedi cael promotion; dwi'n edrych ymlaen at fod 'da sêr uwch gynghrair yr ysgolion. "Mi fyddai i y tymor nesaf yn teithio o Went i'r Bala, i gwrdd â ffrindiau newydd sbon yn sgolion dawnus Gwala. "Fe fydd yn brofiad newydd i mi ac i'r beirdd bach celfydd, ond fel un tîm fel allwn ni farddoni gyda'n gilydd." Dysgu ei hun Cafodd Eurig ei eni yng Nghaerdydd ond ei fagu yn Llangynog ger Caerfyrddin. Graddiodd o brifysgol Aberystwyth ac mae ar hyn o bryd yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru gan astudio gwaith Dafydd ap Gwilym. Dysgodd gynganeddu ei hun yn 13 oed gyda chymorth cyfrol Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd. Hyd yma dyw Eurig ddim wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol er ei fod yn ail dair gwaith. Mae Bardd Plant Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Y beirdd sydd wedi rhagflaenu Eurig yw Myrddin ap Dafydd; Meirion MacIntyre Huws; Menna Elfyn; Ceri Wyn Jones; Tudur Dylan Jones; Mererid Hopwood; Gwyneth Glyn; Caryl Parry Jones; Ifor ap Glyn; Twm Morys a Dewi Pws.
Cliciwch yma am fwy o hanes Eurig Salisbury
.
|