British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 31 Mai 2011, 16:10 GMT 17:10 UK
Merch yn brif gyfansoddwr yr Urdd

Mared Emlyn
Mae Mared yn gwneud cwrs doethur ym Mangor

Myfyrwraig o Ddyffryn Conwy yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Abertawe a'r Fro 2011.

Daw Mared Emlyn yn wreiddiol o Langernyw ac mae hi ar hyn o bryd yn dilyn cwrs doethur mewn perfformio telyn a chyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor.

Ar ddiwrnod gwlyb iawn yn Abertawe, efallai bod Mared yn gallu rhagweld sut ddiwrnod fyddai gan mai Ambarel oedd ei ffugenw am ddarn o dan y teitl Perlau yn y glaw.

Dywedodd y beirniaid, Einion Dafydd ac Eric Jones, bod y gwaith yn "gyfansoddiad gorffenedig" a'i fod hefyd yn ddarn "canmoladwy" oedd yn arddangos y tair c yr oedden nhw fel beirniaid yn chwilio amdano, cymhelliad, crefft a chyflwyniad.

Roedd Mared wedi llunio cyfres o ddawnsfeydd ar gyfer y delyn.

"Deunydd cynnil organig, crefft i ymdrin ag idiom gerddorol yn ogystal â nodweddion technegol yr offeryn," meddai'r beirniaid.

Byseddu

"Mae'r cyfansoddiad yn gyfraniad gwerthfawr i repertoire y delyn."

Erbyn hyn mae Mared a'i theulu yn byw yn Eglwys Bach, Dyffryn Conwy ac mae hi'n aelod o Aelwyd yr Urdd Llanrwst.

Dywedodd ei bod yn falch o allu cyfuno'r cyfansoddi gyda pherfformiad.

"Mae 'na pum darn sy'n fywiog a rhythmig ar y cyfan," meddai.

"Dwi'n hoffi cael delwedd cyn mynd ati i gyfansoddi a diferion glaw amrywiol oedd gen i wrth lunio'r gwaith yma.

"Mae patrwm byseddu yn amlwg yn y cyfansoddiad," ychwanegodd.

Derbyniodd Mared Fedal Goffa Grace Williams a oedd eleni yn rhodd gan Gorau a Band Pontarddulais.

Yn ail yr oedd Aled Wyn Clarke o Ddinbych ac roedd Tim Harrison o gylch Castell-nedd ac Afan yn drydydd.

Darllenwch fwy am fuddugoliaeth Mared Emlyn




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific