British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 31 Mai 2011, 15:58 GMT 16:58 UK
Merch o Gaerdydd yw Dysgwr y Flwyddyn yn Abertawe

Sophie Baggott
Mae Sophie Baggott yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd

Disgybl ysgol o Gaerdydd yw enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Abertawe a'r Fro 2011.

Yn ôl y beirniaid roedd gwaith Sophie Baggott yn deilwng o'r Fedal.

Roedd hi wedi llunio tri darn o waith llenyddol ac wedi cyflwyno tâp ohoni'n siarad.

Nia Parry ac Elin Meek oedd y beirniaid.

Dywedodd Nia Parry wrth draddodi'r feirniadaeth bod gwaith Athena (ffugenw Sophie) yn llwyr deilyngu'r wobr.

"Roedd Athena wedi cyflwyno tri darn, stori fer a dau linyn perthnasol, llythyrau dyfeisgar a thraethawd oedd yn sôn am ryddid gwleidyddol.

"Er ein bod yn chwilio am un enillydd, mae'r Gymraeg ar ei hennill.

"Mae Athena wedi dangos brwdfrydedd heintus tua'r iaith."

Mwy i gystadlu

Dim ond chwech oedd wedi cystadlu, gyda'r chwech yn dod o dair ysgol uwchradd.

"Yn amlwg rydym fel beirniaid yn siomedig efo nifer y cystadleuwyr ond roedd safon y gwaith yn plesio yn fawr," meddai Nia Parry.

"Hoffem annog athrawon i ysgogi rhagor o ddisgyblion i gystadlu."

Roedd rhaid i'r cystadleuwyr lunio tri darn o ryddiaith, unai ysgrif, traethawd, stori fer, deialog, llythyr, cerdd neu adolygiad yn ogystal â recordiad o sgwrs.

Mae Sophie yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd.

Mae hi wrth ei bodd gydag ieithoedd ac yn mwynhau teithio.

"Mae fy athrawes, Lona Evans, wedi bod yn ddylanwadol iawn ac yn llawn angerdd dros y Gymraeg," meddai Sophie wedi ei buddugoliaeth.

"Mae hi'n ysbrydoledig iawn."

Dywedodd ei bod yn gobeithio mynd i Rydychen i astudio'r clasuron ac y byddai'n mwynhau mynd ymlaen i ysgrifennu, fel newyddiadurwr neu fel awdur yn y dyfodol.

Mae'r ail yn y gystadleuaeth, David Nichol, hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd.

O'r brifddinas y daw'r trydydd hefyd, Angharad Thomas, sy'n ddisgybl yn Ysgol Howells.

Darllenwch fwy am fuddugoliaeth Sophie Baggott




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific