British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 31 Mai 2011, 11:02 GMT 12:02 UK
Jay Worley: Cymro gyda thalent

Jay Worley
Mae Jay yn gobeithio astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd

Bydd ardal Pontypridd yn cefnogi llanc ifanc yn ei ymdrech i ennill lle yn rownd derfynol y rhaglen deledu Britain's Got Talent nos Fercher.

Ond os bydd Jay Worley, 18, o Feddau, Pontypridd yn llwyddo bydd e'n methu cystadlu mewn pedair cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau a dydd Gwener.

Mae Jay eisoes wedi llwyddo i gyfareddu beirniaid y rhaglen, sef Michael McIntyre, Amanda Holden a David Hasselhoff a chyrraedd rownd gynderfynol y sioe dalent boblogaidd.

Bydd yn cystadlu yn erbyn naw act arall ar raglen fyw fydd yn cael ei darlledu am 7.30pm ar ITV1 nos Fercher.

Fe fydda i'n ddigon bodlon beth bynnag fydd yn digwydd nos Fercher am fy mod i'n cael cyfle i berfformio, a 'na gyd sy'n bwysig i mi
Jay Worley

"Rwy'i ar ben fy nigon am fy mod i'n cael cyfle i berfformio'n fyw ar raglen deledu, rwy'n byw'r freuddwyd, fel maen nhw'n dweud," meddai Jay, sydd newydd sefyll ei arholiadau Safon Uwch mewn Hanes, Drama, Cerddoriaeth a Chymraeg.

"Rwy'i newydd glywed mod i'n cymryd rhan yn rhaglen nos Fercher felly os bydda i'n ddigon lwcus i fod yn un o'r ddau gystadleuydd sy'n cael eu dewis ar gyfer y rownd derfynol fydda' i ddim yn gallu cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon.

"Ond os na wna i lwyddo ennill nos Fercher bydd e'n fraint i mi gystadlu yn yr eisteddfod hefyd."

Llundain

Mae Jay i fod i gystadlu yng nghystadleuaeth yr ensemble lleisiol ddydd Iau ac yng nghystadlaethau'r côr, parti llefaru a'r unawd sioe gerdd ddydd Gwener.

Jay Worley
Mae Jay wedi cystadlu yn eisteddfodau'r Urdd ers iddo fod yn 8 oed

"Fe fydda i'n ddigon bodlon beth bynnag fydd yn digwydd nos Fercher am fy mod i'n cael cyfle i berfformio, a 'na gyd sy'n bwysig i mi," meddai Jay, sy'n gobeithio dilyn cwrs actio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd ym mis Medi.

"Ond fe fydd rhaid imi aros yn Llundain i baratoi ar gyfer y rownd derfynol os byddai'n llwyddiannus yn y rownd hon."

Ychwanegodd ni allai ddweud pa gân y bydd yn ei chanu nos Fercher ond hyd yn hyn mae e wedi diddanu'r beirniaid trwy ganu fersiwn o 'Cry Me A River' a'i fersiwn o 'Chasing Cars' gan Snow Patrol.

Eisoes mae'r pianydd Paul Gbegbage a'r canwr ifanc Ronan Parke, wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth yr enillodd y canwr Paul Potts o Bort Talbot yn 2007.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific