British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Mai 2011, 15:59 GMT 16:59 UK
Abertawe yn yr Uwchgynghrair

Brendan Rodgers a'i dim
Brendan Rodgers a chwaraewyr Abertawe yn dathlu dyrchafiad

Mae'r term "gêm o ddwy hanner" yn hen ystrydeb yn y byd pêl-droed ers tro, ond does dim disgrifiad gwell o rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley brynhawn Llun.

Canlyniad y cyfan oedd gorfoledd i Abertawe. Fe fydd yr Elyrch yn chwarae yn erbyn cewri Manchester United, Chelsea a Lerpwl y tymor nesaf.

Ar yr egwyl, roedd hi'n ymddangos y byddai'r cyfan mor hawdd.

Roedd Abertawe wedi mynd ar y blaen gyda chic o'r smotyn gan Scott Sinclair wedi 21 o funudau yn dilyn trosedd Khizanishvili.

O fewn munud, roedd Sinclair, ac Abertawe, wedi dyblu'r cyfanswm, a phan rwydodd Stephen Dobbie pum munud cyn yr egwyl i roi Abertawe ar y blaen o dair gôl i ddim, roedd hi'n ymddangos y byddai tîm Brendan Rodgers ar eu ffordd i adran uchaf pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf ers y 1980au heb fawr o drafferth.

Sioc

Scott Sinclair yn sgorio'i ail yn y gem
Scott Sinclair yn sgorio'i ail yn y gem

Ond o fewn pedwar munud i ddechrau'r ail hanner, roedd Reading yn ôl yn y gêm - yn swyddogol, gôl i'w rwyd ei hun gan Joe Allen oedd hi er byddai Noel Hunt yn hawlio'r gôl hefyd.

Roedd Reading yn synhwyro y gallai sioc ddigwydd, ac wedi 57 o funud, fe beniodd Matt Mills i'r rhwyd i ddod â Reading yn ôl o fewn un.

Reading oedd yn pwyso'n barhaus erbyn hyn, ac fe darodd Karacan y postyn gydag ergyd rymus wrth i Abertawe amddiffyn yn barhaus.

Ychydig o gyfleoedd i ymosod gafodd Abertawe, ond gyda deng munud yn weddill fe arweiniodd un o'r rheini at gic o'r smotyn arall oherwydd trosedd Andy Griffin.

Scott Sinclair gadwodd ei ben a phlannu'r bel yng nghornel y rhwyd am ei hat-tric.

Fe wnaeth hynny wella'r nerfau yn y munudau olaf wrth i Reading ymosod unwaith yn rhagor, ond fe ddaliodd amddiffyn Abertawe yn gadarn i sicrhau y bydd Abertawe yn yr Uwchgynghrair y tymor nesa.

'Gwych'

Roedd ildio'r ddwy gôl yn help i ni ail-ganolbwyntio a chael tipyn o reolaeth yn ôl - mae'n ffantastic!
Brendan Rodgers

Rheolwr Abertawe

Cyfaddefodd y rheolwr Brendan Rodgers fod ildio dwy gôl wedi bod yn gymorth i'w dîm ganolbwyntio o'r newydd i sicrhau buddugoliaeth.

Dywedodd Rodgers, sy'n gyn rheolwr Reading hefyd: "Roedd hi'n gêm wych.

"Dwi ddim yn credu i ni chwarae cystal ag y gwnaethon ni am y rhan fwyaf o'r tymor, ond pan wnaethon ni ddangos ein gallu roedden ni'n dda iawn iawn.

"Roedd ildio'r ddwy gôl yn help i ni ail-ganolbwyntio a chael tipyn o reolaeth yn ôl - mae'n ffantastic!"

Llongyfarchiadau

Trydedd gol Scott Sinclair
Sgoriodd Scott Sinclair y bedwaredd o'r smotyn

Eisoes mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi llongyfarch y tîm ar eu llwyddiant. Dywedodd:

"Llongyfarchiadau i Abertawe ar sicrhau dyrchafiad i'r Uwchgynghrair.

"Mae'n newyddion gwych y bydd gan Gymru dim yn chwarae ar y lefel uchaf am y tro cyntaf ers degawdau.

"Bydd y llwyddiant yma yn chwarae rôl bwysig i godi proffil Abertawe a Chymru yn y DU a thu hwnt."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan: "Uwchgynghrair Lloegr yw'r gynghrair fwyaf ac orau yn y byd, ac fe fydd chwarae yno yn dod â budd nid yn unig i'r clwb ond i Gymru.

"Bydd pêl-droed Uwchgynghrair yn Stadiwm Liberty yn hwb sylweddol i Abertawe a'r economi leol, gyda llawer o fusnesau lleol yn elwa o'r nifer cynyddol o ymwelwyr a masnach i'r ddinas.

"Mae Brendan Rodgers, y chwaraewyr a phawb sydd yn rhan o'r clwb wedi rhoi achos i ni gyd ddathlu, ac fe allan nhw fod yn falch iawn o'r llwyddiant gwych yma."



HEFYD
Llawenydd ar ddiwedd degawd?
27 Mai 11 |  Newyddion
40,000 i Wembley
30 Mai 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific