British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 31 Mai 2011, 07:15 GMT 08:15 UK
Band eang: "Cymru'n dioddef"

Ffonau symudol
Mae masnachu dros ffonau symudol yn rhan o'r diwydiant sy'n tyfu'n aruthrol

Mae rhannau o Gymru yn methu manteisio mewn twf aruthrol mewn masnachu gyda ffonau symudol oherwydd diffyg derbyniad.

Dyna ganlyniad arolwg gan gwmni masnachu ar-lein eBay, sy'n galw ar y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant cyfathrebu, Ofcom, i weithredu i adfer y sefyllfa.

Mae eBay wedi edrych ar fynediad i fand eang symudol mewn ardaloedd ar draws Prydain.

Dywed y cwmni fod eu hymchwil yn dangos y gallai'r diwydiant fod yn werth £706 miliwn yng Nghymru erbyn 2021.

Ond ar hyn o bryd, medd y cwmni, mae mwyafrif y wlad yn y 25% isaf o ardaloedd cyn belled ag y mae masnachu gyda ffonau symudol yn y cwestiwn.

Ymhlith yr ardaloedd sy'n agos at waelod y rhestr o safbwynt masnachu symudol, neu m-fasnach, y mae Llandrindod a Llandudno.

'Dibynadwy'

Dywedodd Angus McCarey, Cyfarwyddwr Gwerthiant gydag eBay UK: "Mae ein hymchwil yn dangos y cyfleoedd anferth y mae siopa gyda ffonau symudol yn gynnig, nid dim ond i werthwyr ond i'r economi gyfan.

"Ond mae cwsmeriaid a masnachwyr yn methu cyfle gan fod cost a dibynadwyaeth band eang symudol yn rhwystro siopwyr rhag gwario.

"Rhaid cael band eang dibynadwy ar draws y DU yn y pen draw.

"Bydd hynny'n gadael i'r cwsmer ddewis pryd a ble i siopa, ac yn annog gwario, a bydd hynny'n rhoi hwb i'r adfywiad economaidd."

Mae eBay wedi cyhoeddi'r ymchwil ac yn galw ar Ofcom i weithredu wrth i'r corff hwnnw ystyried sut i werthu trwyddedau band eang 4G ar ffonau symudol.

Bydd 4G yn cynnig band eang cyflym iawn ar ffonau symudol, ac mae Ofcom yn ymgynghori ar hyn o bryd beth fydd rheolau'r ocsiwn drwyddedau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific