British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Mai 2011, 09:14 GMT 10:14 UK
Gweithwyr yn adfer pont hanesyddol

Y bont ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Cafodd y bont ei chodi yn 1425

Mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar bont hynafol Pen-y-bont ar Ogwr.

Y gred yw bod y dref wedi ei henwi ar ôl y bont sy'n dyddio nôl i'r bymthegfed ganrif.

Yn yr hen ddyddiau roedd pererinion oedd ar daith i Dyddewi yn defnyddio'r bont i groesi afon Ogwr.

Erbyn heddiw mae'n cael ei ddefnyddio'n bennaf gan siopwyr ar eu ffordd i ganol y dref.

Bydd gweithwyr yn defnyddio technegau traddodiadol i adfer y bont.

Llifogydd

Cafodd ei hadeiladu yn 1425 ond bu'n rhaid ei ail chodi yn 1775 ar ôl i lifogydd ei dinistrio.

Un o'r rhai fydd yn adfer y bont y tro hwn yw Andrew Jones.

Mae o wedi ei hyfforddi i ddefnyddio dulliau a thechnegau traddodiadol.

"Mae yna gryn dipyn o waith, "meddai.

"Rydym yn defnyddio deunydd traddodiadol, ac mae hynny'n cymryd mwy o amser."

Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr sy'n gyfrifol am y gwaith a hynny ar ôl derbyn sêl bendith Cadw

Mae'n rhan o gynllun ehangach i adfer adeiladau hanesyddol y dref.

Gwaith trwiso bont
Mae'r gwaith cynnal a chadw yn defnyddio hen dechnegau

Dywedodd y cynghorydd Alana Davies, aelod o gabinet y Cyngor, fod y bont yn bwysig i bobl y dref.

"Mae yna gryn dipyn o waith ymchwil wedi ei wneud er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio'r deunydd cywir."

Un o'r rhai sy wedi bod yn gweithio ar y bont yw James Thomas.

"Rwy wedi bod yn gweithio ar y cynllun am dair blynedd," meddai.

"O ni'n arfer cerdded dros y bont yn blentyn gyda fy mam-gu ac mae'n beth da bod y bont yn cael ei hadfer.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific