British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Mai 2011, 09:01 GMT 10:01 UK
40,000 i Wembley

Cefnogwyr Abertawe
Bydd 40,000 o gefnogwyr Abertawe yn Wembley

Mae 40,000 o gefnogwyr Abertawe ar eu ffordd neu ar fin cychwyn i Wembley ar gyfer un o'r gemau mwyaf yn hanes y clwb pêl-droed.

Byddai curo Reading yn golygu dyrchafiad i'r Uwchgynghrair a'r cyfle i chwarae yn erbyn timau fel Manchester United, Chelsea a Lerpwl y tymor nesa.

Mae rhai yn credu y byddai buddugoliaeth yn golygu hwb o £90 miliwn, gan ystyried ffioedd darlledu ychwanegol a'r gallu i ddenu noddwyr newydd.

Un o'r rhai lwcus i gael tocyn ar gyfer y gêm yw'r canwr Neil Rosser.

Mae o hefyd wedi cyfansoddi can 'Jacs y Gogledd' i ddathlu'r achlysur.

"Nes i gyfansoddi'r gan ar ôl weld baner ar y Liberty, ar ben y faner oedd y geiriau Jacs y Gogledd.

"Ac o ni'n meddwl bod hyn yn grêt bod bobl o'r gogledd dyn dod lawr i'n gweld ni.

Nes i ysgrifennu'r gan ysgafn am y ffaith bod cefnogwyr Abertawe yn dod o bobman erbyn hyn.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd y gan ar werth ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Felindre erbyn diwedd yr wythnos.

Un arall sy'n gobeithio gwerthu cynnyrch ar faes yr Urdd yw perchennog Shwl di mwl, Owain Young

Mae o'n dweud y bydd crysau-T yn dathlu buddugoliaeth Abertawe ar werth ar y maes o fewn "munudau i'r chwiban ola'."

"Ni'n paratoi rhai nawr ac maen nhw'n dweud bo ni wedi ennill, felly gobeithio na fydd yna penalty shootout. "

Bydd y gêm yn dechrau am 3pm.



HEFYD
Llawenydd ar ddiwedd degawd?
27 Mai 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific