Sgoriodd Aaron Ramsey ei drydedd gol dros ei wlad
|
Cafodd Cymru eu buddugoliaeth gyntaf o dan reolaeth Gary Speed wrth guro Gogledd Iwerddon o ddwy gol i ddim yn Nulyn. Gyda saith o'r tîm yn ennill eu bara menyn yn Uwchgynghrair Lloegr, Cymru oedd a'r tîm cryfa' ar bapur, ac felly y profodd hi. Gallai Cymru fod wedi mynd ar y blaen yn gynnar wrth i David Vaughan ganfod Steve Morison, ond daeth tacl dda Colin Coates i'w rwystro. Ond daeth cyfle llawer gwell wedi 17 o funudau wrth i Morison benio at Aaron Ramsey yn y cwrt chwech, ond rywsut fe darodd Ramsey ei ergyd heibio'r postyn. Fe gafodd Gogledd Iwerddon am bell gyfle, ond fe arbedodd Wayne Hennessey un cynnig o bell gan Niall McGinn. Ramsey Yna wedi 36 o funudau fe wnaeth Ramsey yn iawn am ei gamgymeriad yn gynharach. Dyrnodd golgeidwad y Gwyddelod ergyd Craig Bellamy at draed Ramsey, ac fe darodd yntau gefn y rhwyd o ugain llath. Roedd y dorf yn Stadiwm Aviva yn siomedig tu hwnt, ond nid yn annisgwyl efallai o weld fod y ddau dîm wedi colli eu dwy gêm flaenorol yng nghystadleuaeth Cwpan y Cenhedloedd. Ond daeth mwy o godi calon y cefnogwyr o Gymru oedd wedi gwneud y daith i Ddulyn wedi 69 munud. Er fod tri amddiffynnwr o'i gwmpas pan dderbyniodd Robert Earnshaw y bel yn y cwrt cosbi, fe lwyddodd rhywsut i droi cyn tanio ergyd i gornel y rhwyd - dwy i ddim. Haeddiannol Gyda Gogledd Iwerddon yn methu creu cyfleoedd clir, fe fanteisiodd Gary Speed ar y cyfle i ddefnyddio'i eilyddion, a rhoi gorffwys i eraill. Doedd dim gwir fygythiad i gol Hennessey, ac fe ddaliodd Cymru eu gafael ar y fantais am fuddugoliaeth haeddiannol. Mae Cymru'n gorffen y gystadleuaeth yn y trydydd safle, gyda'r Alban a Gweriniaeth Iwerddon yn cwrdd i benderfynu'r ennillwyr. Canlyniad : Gogledd Iwerddon 0-2 Cymru(Ramsey, Earnshaw)
|