Daeth adroddiadau o draethau ledled Cymru
|
Algae sy'n gyfrifol am adroddiadau o garthffosiaeth ac olew ar draethau ledled Cymru yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Mae adroddiadau o fudreddi ar draethau o Borthcawl a Dinbych-y-pysgod yn y de hyd at Aberdyfi a'r Fenai yn y gogledd. Mae'n ymddangos fel lympiau brown yn y dŵr ac ar y lan. Dywed yr Asiantaeth nad yw'r algae yn beryglus, ond y gallai achosi peth cosi poenus ar y croen. Yn ol gwyddonwyr mae'r algae o rywogaeth chaetoceros a phaeocystis a ni ddylid ei lyncu na'i gyyffwrdd. Mae'n cael ei greu gan gyfuniad o'r tywydd poeth diweddar ynghyd a maetholion yn y dŵr. Gyda rhagolygon am fwy o dywydd cynnes dros yr haf, dywed yr Asiantaeth eu bod yn disgwyl mwy o'r algae ar hyd yr arfordir. 'Naturiol' Dywedodd llefarydd: "Does dim tystiolaeth fod yr algae yn wenwynig i bobl, ond nid yw'n bleserus i edrych arno. "Rydym yn cael mwy a mwy o alwadau gan bobl sy'n poeni am ei fod yn edrych fel llygredd. "Gallwn sicrhau'r bobl yna ei fod yn ffenomenon naturiol, ond rydym yn falch fod pobl yn cymryd cymaint o ddiddordeb yn yr amgylchedd ac yn ein ffonio ni." Ychwanegodd fod safon dwr nofio ar draethau yn well nag erioed.
|