British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 28 Mai 2011, 09:32 GMT 10:32 UK
Rheilffordd Fach y Rhyl yn dathlu canmlwyddiant

Trn bach
Mae trenau bach Y Rhyl yn 100 oed eleni

Mae Rheilffordd Fach Y Rhyl, un o atyniadau hynaf y dre', yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed.

Yn ôl y gwirfoddolwyr sy'n gofalau am y rheilffordd hon yw'r lein fach hynaf ym Mhrydain.

Mae'r trên yn mynd ar daith o filltir ar hyd llyn y Marine Lake yn y dref.

Fe godwyd y rheilffordd ym mis Mai 1911 ac ar Wyl y Banc ym mis Awst y flwyddyn honno fe gariodd dros 5,000 o deithwyr mewn 13 awr.

Gwirfoddolwyr

Fel rhan o'r dathliadau bydd chwe locomotif arbennig yn tywys pobl ar y rheilffordd.

Dyma'r tro cyntaf i'r chwech fod gyda'i gilydd ers degawdau.

Llyn
Mae'r rheilffordd fach yn rhedeg o amgylch llyn yn y dref

Cafodd y trenau eu hadeiladu rhwng 1920 a 1934 gan gwmni yn Y Rhyl.

Arhosodd tri o'r rhain yn y dre tra aeth y lleill i Fanceinion a Margate.

Hefyd, bydd ffair bleser ar y safle am y tro cyntaf ers 1969 a bydd llwybr natur o amgylch y llyn.

Bydd y trenau'n rhedeg o 10am tan tua 5pm.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific