British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 27 Mai 2011, 07:10 GMT 08:10 UK
Llawenydd ar ddiwedd degawd?

Brendan Rodgers
Mae Brendan Rodgers wedi arwain Abertawe i rownd derfynol y gemau ail gyfle

Naw mlynedd ers iddyn nhw fod ar fin mynd i'r wal, mae Clwb Pêl-droed Abertawe o fewn cam i'r gynghrair bêl-droed cyfoethocaf yn y byd - yr Uwch Gynghrair.

Dyn busnes o Awstralia, Tony Petty, oedd yn rhedeg y clwb am dri mis tua diwedd 2001, a bu protestwyr at strydoedd y ddinas yn galw am gael gwared ohono.

Diwrnod mawr i'r cefnogwyr

Roedd Petty wedi eu gwylltio drwy geisio rhoi'r sac i 7 o chwaraewyr a dau hyfforddwr er mwyn gwneud arbedion pan oedd y tîm yn yr hen drydedd adran - Adran 2 erbyn heddiw.

Daeth consortiwm lleol dan arweiniad y cyn chwaraewr Mel Nurse i'r adwy, gan lwyddo i ddwyn yr awenau ar Ionawr 24, 2002 - mae'n debyg y byddai'r clwb wedi mynd i'r wal o fewn 24 awr i hynny.

Diwrnod olaf

Degawd cythryblus Abertawe
2001-02 - Perchnogion newydd yn achub y clwb rhag mynd i'r wal
2002-03 - Abertawe'n aros yn y gynghrair drwy ennill ar ddiwrnod ola'r tymor
2003-04 - Diswyddo Brian Flynn fel rheolwr a phenodi Kenny Jackett
2004-05 - Dyrchafiad i Adran 1 yn nhymor llawn cyntaf Jackett
2005-06 - Colli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle, ond ennill Tlws y Gynghrair
2006-07 - Diswyddo Jackett tua diwedd tymor siomedig a phenodi Roberto Martinez yn ei le
2007-08 - Dyrchafiad i'r Bencampwriaeth yn nhymor llawn cyntaf Martinez
2008-09 - Curo deiliaid Cwpan FA, Portsmouth, yn y bedwaredd rownd, ond Martinez yn gadael am Wigan ar ddiwedd y tymor
2009-10 - Unig dymor Paolo Sousa wrth y llyw yn gorffen gyda'r clwb o fewn pwynt i'r gemau ail gyfle
2010-11 - Trydydd yn y Bencampwriaeth a rownd derfynol y gemau ail gyfle yn nhymor cyntaf Brendan Rodgers fel rheolwr

Doedd y cyfnod a ddilynodd ddim yn fêl i gyd, a bu bron i'r clwb ddisgyn o'r gynghrair yn gyfan gwbl ar ddiwrnod olaf tymor 2002-03 cyn iddyn nhw ennill y gêm o 4 i 2 yn erbyn Hull.

Wyth mlynedd, stadiwm newydd a dau ddyrchafiad yn ddiweddarach, mae'r clwb ar fin mynd i'r lefel uchaf unwaith eto, ond wedi llwyddo i wneud hynny gan gadw strwythur ariannol a chyflogau wrth wneud hynny.

Ond mae ofergoeledd yn beth cyfarwydd i lawer cefnogwr pêl-droed, ac fe all cefnogwyr Abertawe gael cysur o ambell ystadegyn.

Cafodd y clwb ddyrchafiad i Adran 1 yn nhymor llawn cyntaf Kenny Jackett fel rheolwr.

Cafodd y clwb ddyrchafiad i'r Bencampwriaeth yn nhymor llawn cyntaf Roberto Martinez fel rheolwr.

Y tymor hwn yw tymor llawn cyntaf Brendan Rodgers fel rheolwr.

Y tro diwethaf i Abertawe chwarae ar y lefel uchaf, hen gae'r Vetch oedd eu cartref.

Ond mae gan y clwb bellach gartref yn Stadiwm Liberty fyddai'n gweddu i'r Uwch Gynghrair.

Beth bynnag fydd canlyniad y gêm yn Wembley yn erbyn Reading ddydd Llun, fe fydd gwir gefnogwyr Abertawe yn falch o orchestion y clwb ar ddiwedd degawd cythryblus tu hwnt.



HEFYD
Rhybudd alcohol i gefnogwyr
25 Mai 11 |  Newyddion
Yr Elyrch yn cyrraedd Wembley
17 Mai 11 |  Newyddion
Gm gyfartal i 10 dyn Abertawe
12 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific