British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Mai 2011, 13:17 GMT 14:17 UK
Carchar i aelod o Gylch yr Iaith

Geraint Jones
Roedd Geraint Jones wedi gwrthod talu dirwy o £330

Cafodd aelod blaenllaw o Gylch yr Iaith ei garcharu am 10 diwrnod gan ynadon Dolgellau.

Mae Geraint Jones, 69 oed o Drefor ger Caernarfon, yn gwrthod talu dirwy o £330 gafodd o am fethu â chael trwydded deledu.

Roedd o'n gwrthod prynu trwydded mewn protest yn erbyn y defnydd o Saesneg ar Radio Cymru.

Fe gafwyd Jones yn euog flwyddyn yn ôl ac yn gyson ers hynny mae o wedi gwrthod talu'r ddirwy.

Roedd tua 20 o gefnogwyr wedi teithio i'r llys i'w gefnogi ddydd Iau.

Dywedodd wrth y llys y gallai dalu'r drwydded ond nad oedd ganddo unrhyw fwriad i wneud hynny.

Dywedodd ei fod yn protestio yn erbyn yr hyn y disgrifiodd o fel "haerllugrwydd a Seisnigrwydd BBC Radio Cymru".

Disgrifiodd llawer o gynnwys yr orsaf fel "sothach".

Mynnodd ei fod yn cynrychioli miloedd o bobl oedd yn rhan o ymgyrch i atal difa darlledu Cymraeg.

Dywedodd cadeirydd yr ynadon, Dorothy Hughes, bod Jones wedi datgan yn glir nad oedd am dalu'r ddirwy ac felly eu bod am ei anfon i'r carchar am 10 niwrnod.

Cafodd ei gludo o'r llys mewn car heddlu yn fuan wedyn.

Mae'n dweud y bydd yn ymprydio hyd nes y bydd yn cael ei ryddhau o'r carchar.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific