British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Mai 2011, 12:25 GMT 13:25 UK
Gwyl y Gelli yn denu'r tyrfaoedd

Dara O'Briain, Chris Evans, Ralph Fiennes a Howard Jacobson
Bydd Dara O'Briain, Chris Evans, Ralph Fiennes a Howard Jacobson yn cymryd rhan yn yr ŵyl

Fe fydd llenorion, cerddorion, actorion a gwleidyddion yn tyrru i Ŵyl Y Gelli.

Mae trefnwyr yr ŵyl wedi datgan bod gwerthiant ticedi wedi codi 15% ers y llynedd

Dywedodd y cyfarwyddwr, Peter Florence, fod y strategaeth o gadw prisiau ticedi'n isel wedi gweithio a disgwylir i 230,000 o dicedi cael eu gwerthu ar gyfer yr ŵyl sy'n dechrau ddydd Iau.

Bydd y wledd o lenydda yn para tan Fehefin 5.

Hon yw'r 24ain gŵyl i'w chynnal yn nhref marchnad Y Gelli Gandryll ar y gororau.

Bydd dros 200 o ddigwyddiadau yn digwydd yn yr ŵyl a gynhelir yn y dref sy'n enwog am ei 40 o siopau llyfrau.

Ymgeisydd

"Mae'r ŵyl wedi denu mwy o bobl eleni am ein bod ni wedi cadw prisiau ticedi yn isel oherwydd bod pethau'n dynn yn ariannol ar hyn o bryd," meddai Mr Florence.

Rob Lowe
Mae'r actor Rob Lowe yn enwog am ei ran yn y gyfred teledu - The West Wing

Ymhlith yr awduron sy'n ymweld y mae Howard Jacobson, fydd yn siarad am ei lyfr 'The Finkler Question' a enillodd Wobr Booker 2010.

Ond nid llenorion yn unig fydd yn ymddangos yn yr ŵyl.

Bydd y digrifwyr Paul Merton, Dara O'Briain, Jo Brand, Sue Perkins a Sandi Toksvig hefyd yn ymweld â'r Gelli yn ystod y 10 niwrnod nesaf.

A bydd Chris Evans yn darlledu ei raglen radio BBC Radio 2 o'r Gelli ddydd Gwener Mehefin 3.

Y person amlycaf o'r byd gwleidyddol Mohamed El Baradei sydd wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel ac sy'n ymgeisydd am Arlywyddiaeth yr Aifft.

Bydd yr actorion Ralph Fiennes a Rob Lowe hefyd ymysg y pwysigion fydd yn teithio i'r Gelli.

Bydd Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams yn siarad am waith Shakespeare ddydd Gwener Mai 27.

Bydd lansiad swyddogol y sefydliad cenedlaethol newydd, Llenyddiaeth Cymru, yn cael ei gynnal ddydd Llun yn siop Lyfrau Richard Booth.

Sgwadiau 'Sgwennu

Bydd darlith flynyddol Gwyn Jones yn cael ei chynnal ym mhafiliwn Barclays Wealth ddydd Mercher.

Eleni, Iain Sinclair, yr awdur o Hackney sy'n wreiddiol o Gaerdydd fydd yn traddodi.

Bydd diwrnod o weithgareddau i aelodau Sgwadiau 'Sgwennu'r Ifainc yn digwydd ar Fehefin 3 gyda blogiwr preswyl Llenyddiaeth Cymru, Horatio Clare.

Dydd Sadwrn Mehefin 4 fe fydd yr awdur taith Tom Anderson a'r bardd Eurig Salisbury yn trafod etifeddiaeth odli'r Cymry a'i ddylanwad heddiw.

Mae Gŵyl y Gelli Gandryll a gafodd ei sefydlu ym 1987 yn fusnes gwerth miliynau o bunnoedd erbyn hyn.

Mae nifer o enwogion wedi cael eu denu i'r ŵyl ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys cyn arlywyddion yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter a Bill Clinton.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific