Dywed Mr Davies y byddai'n anodd cynnal gwasanaeth "cenedlaethol"
|
Mae cyn-reolwr BBC Cymru wedi y byddai toriadau i wasanaethau teledu a radio'r gorfforaeth yn arwain at sefyllfa "argyfyngus i ddarlledu yng Nghymru". Roedd Geraint Talfan Davies yn ymateb i ddogfen a ddaeth i ddwylo'r wasg ddydd Mercher yn amlinellu ffyrdd posib o wneud toriadau o 20%. Dywedodd Mr Davies y byddai toriadau o'r fath yn "annerbyniol" ac y byddai'n "anodd gweld sut y gellid "cynnal gwasanaeth sy'n cael ei alw'n wasanaeth Cenedlaethol." Mae'r BBC yn ganolog wedi gofyn i BBC Cymru ystyried sut i wneud toriadau o hyd at 20%. Mewn ymateb dywedodd y BBC nad ydyn nhw gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol eto. Roedd dogfen fewnol yn son am opsiynau posib - gan gynnwys torri nôl neu roi'r gorau i rai rhaglenni teledu a radio. 'Annerbyniol' Mae awgrym yn y ddogfen y gallai toriadau olygu llai o ddarlledu o ddigwyddiadau cenedlaethol fel yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Mae'r BBC yn dweud mai dogfen drafod yn unig yw hi
|
Mae awgrym hefyd y gallai toriadau effeithio ar raglenni materion cyfoes, newyddion a chwaraeon. Gallai dyfodol rhaglenni gwleidyddol fod yn y fantol - gan olygu diwedd ar Manylu a Dau o'r Bae ar Radio Cymru a rhaglenni teledu fel Week In Week Out ac elfen Gymreig The Politics Show. Ar raglen newyddion BBC Cymru Post Cynta ddydd Iau dywedodd Mr Davies am y toriadau dan sylw: "Maen nhw'n bownd o fod yn annerbyniol beth bynnag yw'r manylion - oherwydd mae'n anodd gweld sut y gellir cynnal gwasanaeth sy'n medru cael ei alw yn wasanaeth cenedlaethol ar radio neu deledu. "Mae'n rhaid gofyn a ydi toriadau yn mynd i fod yn gyfartal ar draws y BBC neu a fydd yna flaenoriaeth i rai pethau. "Dwi'n credu bod angen i ni yng Nghymru ddadlau fod angen blaenoriaethu'r gwasanaethau yng Nghymru. "Mae sefyllfa ar ôl degawd o ddatganoli a newid mawr yn ein cymdeithas a gwendidau yn y cyfryngau sydd gennym ni yma yn golygu ein bod yn ddibynnol iawn ar y BBC." 'Dim penderfyniad' Dywedodd hefyd y gallai'r toriadau yn y pendraw fod yn fygythiad i S4C. Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd y BBC yn gyfrifol am ariannu rhan helaeth o S4C yn y dyfodol. Dydd Mawrth mewn e-bost at holl staff y BBC dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Keith Jones nad oedd unrhywbeth yn bendant am y cynlluniau. "Rwyf am ei gwneud yn hollol glir nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynglyn ag arbedion yn ystod y rhan hon o'r broses ...," meddai. "Nid oes disgwyl i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud tan yn hwyrach eleni. "Bydd angen sêl bendith Ymddiriedolaeth y BBC ar yr argymhellion terfynol."
|