British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mai 2011, 19:33 GMT 20:33 UK
Richard Bowering yr arbenigwr garddio wedi marw

Richard Bowering
Mae ôl bysedd gwyrdd Richard Bowering i'w weld mewn sawl lle

Bu farw'r arbenigwr garddio Richard Bowering yn 87 oed.

Cyfrannodd yn helaeth i raglenni radio a theledu yn Gymraeg a Saesneg gan rannu ei arbenigedd.

Bu farw ddydd Mawrth ar ôl mynd i Ysbyty Neville Hall yn Y Fenni ddydd Gwener.

Yn ôl ei deulu cafodd fywyd hir, gwych a llwyddiannus.

Roedd ei dad yn brif arddwr ar stad yr Arglwydd Harlech.

Cafodd Mr Bowering gyfnod yn y Llynges ond garddwriaeth aeth a'i fryd.

Cafodd lwyddiant yn y maes a dod yn llais ac yn wyneb adnabyddus yn ei sgil.

Bu'n briod â Dorris ers 1945 a chanddynt bump o blant, wyth o wyrion a dau or-ŵyr.

Roedd yn hynod falch fod ei blant wedi "dianc i fyd addysg ac wedi llwyddo yn eu meysydd".

Yn ôl ei deulu mae ei ardd yn Aberhonddu yn dyst i'w arbenigedd felly hefyd y nifer eraill ar hyd y wlad y bu'n cyfrannu tuag atyn nhw.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific