Bydd y synwyryddion ystlumod gyda galluoedd recordio, GPS a goleuadau nos
|
Mae prosiect i warchod ac ymchwilio i ystlumod ymhlith nifer o grwpiau sy'n rhannu dros £473,000 oddi wrth y Gronfa Loteri Fawr. Bydd 132 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r arian a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf rhaglen grantiau bach y gronfa. Bydd Grwp Ystlumod y Cyhoedd yng Nghaerdydd yn defnyddio peth o'i £4,370 i brynu offer i ddarganfod lleoliad ystlumod ac i brynu tortshis. Fe fydd peth o'r arian yn cael ei ddefnyddio i annog beicwyr i gadw golwg ar fioamrywiaeth ar hyd un o lwybrau'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
 |
Bydd meddalwedd dadansoddi recordiadau yn ein helpu i weld pa rywogaethau ystlumod sy'n defnyddio'r llwybrau beicio
|
Dywedodd Alison Jones, trysorydd Grwp Ystlumod y Cyhoedd: "Bydd y prosiect yma yn datblygu dull newydd o gynnal arolwg o ystlumod ar hyd llwybrau beicio ...a hel gwybodaeth am ystlumod yn chwilio am fwyd a theithio gyda'r nos. "Bydd yr offer newydd yn cynnwys offer recordio, GPS sy'n gallu gael eu gosod ar feics. "Bydd meddalwedd dadansoddi recordiadau yn ein helpu i weld pa rywogaethau ystlumod sy'n defnyddio'r llwybrau beicio." Cefnogi mamau Ym Mro Morgannwg, bydd Clwb Achub Bywydau a Syrffio Y Barri yn derbyn £4,628 i brynu offer achub. Bydd Cangen Sir Fynwy a'r Cylch yr Ymddiriedolaeth Geni Plant yn gwario £4,800 ar hyrwyddo eu gwaith. Yng Ngheredigion bydd prosiect arall sy'n cefnogi rhieni, y Rhwydwaith Bwydo o'r Fron, yn defnyddio £5,000 i sefydlu grŵp newydd yn Aberaeron. Dywedodd Joanna McLennan, o'r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron: "Bydd y grant yn ein galluogi i hyfforddi mamau lleol i gefnogi teuluoedd lleol." Yng ngogledd Cymru bydd River and Sea Sense Ltd yn derbyn £4,951 i redeg prosiect a fydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr ymhlith pobl ifanc. Bydd Dyslecsia Cymru, sydd wedi ei leoli yng ngorllewin Cymru, yn derbyn £4,250. Bydd Heart of the Dragon yn Sir Gaerfyrddin yn derbyn £4,985 i godi llawr mosaig ger adfeilion y castell yng Nghastellnewydd Emlyn. Yn yr un ardal bydd Canolfan Deuluoedd Y Morfa yn derbyn £3,406 i gynnal prosiect peilot chwe mis er mwyn i grŵp tadau gynyddu sgiliau magu plant. Dyfarnwyd tua £3,125 i Gangen De Powys Sefydliad Clefyd Parkinson y DU. Bydd prosiectau sy'n cefnogi pobl ag anableddau a salwch hefyd yn cael eu hariannu, gan gynnwys £2,692 ar gyfer Campfa a Grŵp Cymdeithasol Pobl â Nam ar y Golwg Torfaen. Hefyd, bydd Cymdeithas Hunangymorth Y Maerdy yn derbyn £3,200 i leihau unigrwydd ymhlith pobl sy'n dioddef o iselder.
|