British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mai 2011, 14:57 GMT 15:57 UK
Gavin Henson yn cael ei ryddhau gan Toulon

Gavin Henson
Mae Gavin Henson yn chwilio am glwb newydd

Mae Gavin Henson wedi cael ei ryddhau gan glwb Toulon.

Dywedodd y clwb o Ffrainc nad ydyn nhw wedi cynnig cytundeb newydd i'r canolwr.

Y rheswm yn ôl y clwb, rhesymau cyllid a rygbi sydd wrth wraidd y penderfyniad.

Maen nhw'n pryderu am y posibilrwydd y bydd Henson yn rhan o grafan rygbi Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd y clwb y byddai hynny yn golygu eu bod yn colli chwaraewr am dri i bedwar mis.

Cafodd Henson ei ddiarddel am wythnos gan y clwb am gamymddwyn yn ddiweddar.

Fe fydd y canolwr yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Y Barbariaid ar Fehefin 4 yn Stadiwm y Mileniwm.

Fe wnaeth Henson ymuno gyda'r clwb o Ffrainc ym mis Chwefror o glwb y Saracens.

Doedd o ddim wedi chwarae am rai misoedd i'r Gweilch cyn gadael i ymuno â'r clwb o Lundain.

Roedd Henson wedi gobeithio y byddai'n cael dau dymor arall yn Ffrainc.

Pedair gêm gafodd o i Saracens cyn chwarae dwy gêm a hanner i Toulon.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific