British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mai 2011, 12:37 GMT 13:37 UK
Cyngor Conwy am brynu pier Bae Colwyn

Pier Bae Colwyn
Credir y gallai gostio 3.5m i wneud gwaith andewyddu

Mae arweinwyr Cyngor Conwy wedi datgan eu bod yn bwriadu prynu pier Bae Colwyn.

Byddai'r cyngor sir yn prydlesu'r pier i grŵp lleol sydd am adfer yr adeilad Fictorianaidd Gradd II.

Ond bydd angen caniatad y cyngor llawn cyn i'r cynllun gael ei wireddu.

Ddydd Mawrth bu cynghorwyr yn trafod dyfodol y pier y tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae'r adeilad wedi bod ar gau am bron i dair blynedd.

Dywedodd swyddogion fod angen gwneud penderfyniad ar frys.

Camau nesaf

Yn 2008 fe wnaeth y pier gau pan gafodd y perchnogion eu gwneud yn fethdalwyr.

Mae'r adeilad wedi bod yng ngofal y gweinyddwyr er 2008.

Pier Bae Colwyn tua 1930
Cafodd y peir ei adeiladu tua 1900

Credir fod angen gwario tua £3.5 miliwn er mwyn ei adnewyddu.

Cafodd y pier ei adeiladu ym 1900 roedd unwaith yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol Bae Colwyn.

Byddai'n costio dros £1 miliwn i'w ddymchwel.



HEFYD
Adnewyddu pier yn hwb i ymwelwyr
18 Hyd 10 |  Newyddion
Trafod dyfodol pier glan mr
07 Ebr 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific