British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Mai 2011, 05:53 GMT 06:53 UK
Amddiffyn coed hynafol Clawdd Offa

Rob McBride, Julie Bradbury a'r hanesydd Mark Williams ger derwen porth y meirw
Credir i dderwen porth y meirw fod dros fil mlwydd oed

Mae'r coed hynafol ar hyd Clawdd Offa wedi bod yn dyst i sawl brwydr rhwng y Cymry a'r Saeson dros y canrifoedd.

Ond gyda dathliadau 40fed pen-blwydd y llwybr cerdded y clawdd ar fin gychwyn penwythnos yma, mae un Sais yn poeni am ddiffyg amddiffyn i'r hen goed hanesyddol.

Mae Rob McBride o Ellesmere felly wedi mynd ati i nodi pob rhywogaeth hynafol ar hyd y llwybr fel rhan o ymgyrch genedlaethol Coed Cadw.

Trysor

Cychwynnodd ei archwiliad o'r clawdd ym Mhrestatyn yn 2008, ac mae o wedi darganfod sawl trysor ar hyd y ffordd.

"Dwi newydd ddod ar draws coeden y ddraig," meddai'r cyn-beiriannydd, sy'n gobeithio gorffen y prosiect yng Nghas-gwent erbyn diwedd y flwyddyn.

"Mae o'n dderwen rhyw 400m o'r clawdd, yn eistedd ar ben craig gyda gwreiddyn naw medr sy'n ymestyn i lawr i'r pridd. Mae o'n edrych fel draig sy'n ymlusgo i lawr y graig!"

Un o goed enwocaf y llwybr yw dderwen Porth y Meirw, sydd wedi dod i symbylu brwydr Crogen ger Cwm Ceiriog.

Pam mai Prydain sydd a'r canran uchaf o goed hynafol yn Ewrop {Rob McBride}

Statws arbennig i fannau hela'r bonedd
Digonedd o lo fel tanwydd
Rhyfeloedd ar diroedd gweddill Ewrop
Hinsawdd Prydain yn cynnal 'fforest law Ewrop'

"Roedd y frwydr yn rhan o ymgyrch Mynyddoedd y Berwyn yn y 12fed ganrif," eglurodd Mr McBride. "Dyna pryd ddaeth fyddin Brenin Henry II i ymosod, ond ddaru'r Cymry, o dan arweiniad Owain Gwynedd, ddod at ei gilydd a'u curo nhw.

"Cafodd cannoedd, os nad miloedd o gyrff eu lluchio mewn i geunant ar y llecyn yma, ac uwchben y dderwen mae bwlch y beddau."

'Cynefin'

Mae Rob hefyd wedi abseilio i lawr i goed ywen sydd dros 2,000 mlwydd oed yn Eglwysig ger Llangollen, ac wedi cerdded bryniau Clwyd yn nodi hen ddrain gwynion, criafolennau a masarn y cae.

"Y ffordd orau i sbotio hen goed yw chwilio am y rhai gyda chafn ynddynt, sy'n wych fel cynefin i greaduriaid bach," eglurodd.

"Maen nhw hefyd wedi colli rhywfaint ar eu canghennau uchaf. Ac o ran y dderwen, y rhai hynaf yw'r mwyaf, wrth gwrs."

Coeden y ddraig
Mae Clawdd Offa dros wyth medr o uchder mewn rhai mannau

Mae croeso i unrhyw un ymuno ag ymgyrch Coed Cadw i nodi 100,000 o goed hynafol ledled Prydain erbyn diwedd y flwyddyn. Yna, yn ôl Rob McBride, y nod yw mynd a'r dystiolaeth yma i'r llywodraeth, a gofyn am ragor o amddiffyn i'r fath goed.

"Wrth feddwl bod gan Brydain y canran uchaf o goed hynafol yn Ewrop, nid oes llawer i arbed neb rhag eu torri i lawr," meddai.

"Mae yna ddeddfau i amddiffyn ein hadeiladau, ond nid ein hamgylchfyd.

"Mae Coed Cadw felly eisiau amddiffyn y coedwigoedd hynafol sydd yma ar hyn o bryd, a hefyd plannu miliwn o goed ychwanegol er mwyn cynnal cronfa biomas at y dyfodol, fel Ffrainc.

"Gallwn wedyn torri'r coed newydd i lawr ar gyfer tanwydd, ac amddiffyn y rhai hynafol at les yr amgylchedd."

Bydd Rob McBride yn egluro rhagor am ei waith cadwraeth ar raglen Countryfile y BBC ar nos Sul, 29 Mai.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific