Dechreuodd llosgfynydd Grimsvotn ffrwydro ddydd Sadwrn
|
Mae rhai awyrennau wedi cael eu gwahardd rhag gadael neu lanio ym Maes Awyr Caerdydd. Daw'r penderfyniad yn sgil llosgfynydd yn ffrwydro yng Ngwlad yr Iâ gan wasgaru llwch sy'n mynd i gyfeiriad y DU. Mae cwmnïau Loganair ac Easter Airways wedi canslo teithiau awyr rhwng Caerdydd ac Aberdeen. Disgwylir i'r llwch o'r llosgfynydd ledu dros yr Alban yn ystod dydd Mawrth.
 |
Gallai hyn olygu y bydd y gwynt yn cael ei chwythu'n syth o Wlad yr Iâ i'r DU
|
Mae swyddogion Maes Awyr Caerdydd wedi argymell y dylai pobl sy'n gobeithio teithio gysylltu â'r cwmnïau awyrennau a'r cwmnïau teithio am y newyddion diweddaraf ynglŷn â theithiau awyr. Dywedodd Cyflwynydd Tywydd BBC Cymru, Sue Charles, fod y Swyddfa Dywydd yn cadw llygad ar y sefyllfa. "Bydd cyfeiriad y llwch yn dibynnu ar batrymau tywydd y dyddiau nesaf ac am faint y bydd y llosgfynydd yn parhau i ffrwydro. "Mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y gwynt yn chwythu o'r gogledd-orllewin ddydd Iau. "Gallai hyn olygu y bydd y gwynt yn cael ei chwythu'n syth o Wlad yr Iâ i'r DU." Dechreuodd llosgfynydd Grimsvotn ym Mharc Cenedlaethol Vatnajokull ffrwydro ddydd Sadwrn, gan daflu llwch 12 milltir i'r awyr.
|