Mae pentrefwyr wedi bod yn cynnal protest wrth i gynghorwyr Sir Ddinbych drafod cynnig i gau ysgol gynradd. Dywed rhieni Llandrillo, ger Corwen, y dylid cadw'r ysgol ar agor gan ei fod yn ganolbwynt i'r pentre'. Mae cynghorwyr trafod cynigion i gau pedair ysgol gynradd yn ardal gorllewin Dyffryn Dyfrdwy. Yn ôl arolwg diweddar roedd yna nifer o lefydd gwag yn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Mae cabinet Sir Ddinbych yn cwrdd ddydd Mawrth i benderfynu a ddylid parhau â'r cynllun gan ddechrau cyfnod ffurfiol o ymgynghori. Dywedodd y cynghorydd Eryl Williams, sydd â chyfrifoldeb am addysg: "Rydym yn credu ei bod yn bwysig fod pobl yn ymwybodol fod hwn yn broses hir, ac rydym am sicrhau rhieni a chymunedau y bydd yna gyfleoedd i bobl ddweud eu dweud." Yr ysgolion eraill fyddai'n cael eu heffeithio gan y broses ad-drefnu yw Ysgol Bro Elwern, Gwyddelwern, Ysgol Carrog, Ysgol Glyndyfrdwy ac Ysgol Betws Gwerfyl Goch.
|