British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mai 2011, 10:12 GMT 11:12 UK
Anabledd: Angen strategaeth

Defnyddiwr cadair olwyn

Mae Cymru yn llusgo'i thraed o safbwynt helpu pobl gydag anabledd i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned, medd un elusen.

Bydd Anabledd Cymru yn dweud wrth ymchwiliad yn San Steffan fod yna ddiffyg strategaeth yng Nghymru ar fyw'n annibynnol.

Pwrpas yr ymchwiliad yw trafod a oes angen newid yn y gyfraith ai peidio.

Ar ei gwefan, dywed Llywodraeth Cymru ei bod "wedi ymrwymo i drafod ac i wrando ar anghenion pobl anabl."

Mae'r wefan hefyd yn dweud ei bod "yn ateb yr anghyfartaledd hanesyddol sydd wedi arwain at lawer o bobl anabl yn cael eu heithrio yn gymdeithasol."

Cydlynu

Dadl Anabledd Cymru yw mai byw'n annibynnol fyddai'r ffordd orau o liniaru ar doriadau mewn gwasanaethau a budd-daliadau.

Dywedodd eu prif weithredwr, Rhian Davies, y byddai strategaeth Gymreig yn gweld cynghorau, ymddiriedolaethau iechyd a'r heddlu yn datblygu cynlluniau ac yn cydlynu eu gwariant.

Dywedodd: "Mae angen cymorth a chefnogaeth ar bobl gyda thasgau bob dydd fel ymolchi a gwisgo.

"Mater o fod a rheolaeth dros gymorth personol yw hyn, nid dim ond aros i rywun ddod draw ar adeg sy'n gyfleus i'r gwasanaeth - mae'n fater o gwrdd â'ch anghenion chi.

"Mae'n fater o fod yn rhan o'ch cymuned, boed hynny drwy wneud gwaith gwirfoddol neu drwy addysg a dysgu."

Ychwanegodd yr elusen fod polisïau cenedlaethol wedi eu cyflwyno yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac maen nhw wedi cyflwyno deiseb ag arni 700 o enwau yn galw am strategaeth i Gymru i bwyllgor deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol.



HEFYD
Galw am strategaeth i bobl anabl
02 Maw 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific