British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mai 2011, 12:03 GMT 13:03 UK
1,500 mewn protest

Iolo ap Dafydd
Iolo ap Dafydd
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

Peilonau
Y brotest: Tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd

Mae tua 1,500 wedi ymgynull o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd oherwydd protest yn erbyn cynlluniau i godi gorsaf bŵer a rhwydwaith o beilonau yn y canolbarth.

Roedd y protestwyr yn cynnwys rhai o siroedd Trefaldwyn, Maesyfed, Brycheiniog a hyd yn oed y tu hwnt i Glawdd Offa.

Ac roedd y trefnwyr yn gobeithio y byddai hyn yn dangos yn glir i Lywodraeth Cymru pa mor gryf ydy'r gwrthwynebiad i gynlluniau'r Grid Cenedlaethol i godi hyd at 120 o beilonau 50 metr o uchder i gario gwifrau trydan 400,000 folt o Gymru i gyffiniau'r Amwythig yn Lloegr.

Er mwyn trosglwyddo pŵer o'r ffermydd gwynt sy'n gweithio'n barod ar y llethrau ym Mhowys mae polion pren yn cario'r ynni yn barod.

Un o'r nifer o arwyddion yn hybu'r brotest yn y canolbarth
Mae nifer o bosteri ac arwyddion o gwmpas yr ardal

Ond gyda llawer mwy o felinau gwynt yn cael eu cynllunio, ac wedi cael caniatâd yn barod, mi fydd angen ceblau mwy pwerus ac is-orsaf drydan i ymdopi â'r ynni adnewyddol fydd ar gael.

Yn ôl y Grid Cenedlaethol, yn eu hymgynghoriad sydd i bara hyd ddiwedd mis Mehefin, mi fydden nhw angen lleoli is-orsaf ar safle 20 erw nail ai ger Aber-miwl, Y Drenewydd, neu'n ardal fwy gwledig Cefn Coch.

Costau i'r cwsmer

Os daw'r peilonau, tri i bob cilometr, fe allen nhw gael eu gosod lawr Dyffryn yr Hafren i gyfeiriad Y Trallwng, neu lawr Dyffryn Efyrnwy a phentref Meifod ar safle sy'n cael ei ystyried ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2015.

£178 miliwn fyddai'r gost os bydd strategaeth y Grid Cenedlaethol yn cael ei wireddu - a £562 miliwn petai'r gwifrau trydan yn cael eu claddu dan ddaear i osgoi hagru'r ardaloedd dan sylw.

Byddai'r costau yn cael eu pasio 'mlaen i'r cwsmer - chi a fi.

Angen am ynni glanach sy'n gyrru hyn.

Targed llywodraeth Prydain ydy darparu 15% o ynni o ddulliau adnewyddol erbyn 2020.

Ynni gwynt ydy'r dechnoleg sydd wedi ei datblygu fwyaf - gydag ynni o'r llanw, o haul a'r tonnau heb ei brofi'n fasnachol i'r un graddau.

Mae cynllun Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8 wedi ei sefydlu yn 2005, gan weinidog amgylchedd y cyfnod - Carwyn Jones.

Fel Prif Weinidog Cymru, fe bellach sy'n gyfrifol am bolisi ynni'r llywodraeth yng Nghymru.

Ond mae pwrpas cynllun TAN 8, sef sefydlu 7 ardal trwy Gymru a chanoli holl drybini gwynt yn y safleoedd hynny, yn cael ei gwestiynu.

Un o'r nifer o arwyddion yn hybu'r brotest yn y canolbarth
Un o'r nifer o arwyddion yn hybu'r brotest yn y canolbarth

Mi fydd y protestwyr yn gofyn am adolygu'r cynllun hwnnw, ac yn addo "gwneud beth sydd angen" i osgoi "difodiant" Sir Drefaldwyn, medd sawl gwrthdystiwr wrtha i.

Os na ddaw tyrbinau i'r canolbarth, fe allai arafu'r angen am sefydlu strwythur grid newydd.

Dyna obaith y gwrthdystwyr.

Ond Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llundain sydd â'r awdurdod dros gynlluniau ynni mawr - a'r llywodraeth yn San Steffan - er gwaethaf gwrthwynebiad sawl Ceidwadwr Cymreig - fydd yn penderfynu a fydd mwy o felinau gwynt yn golygu mwy o beilonau dur yng nghefn gwlad.



HEFYD
Is-orsaf: Criw'n mynd i Gaerdydd
19 Mai 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific