British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Mai 2011, 18:18 GMT 19:18 UK
Achos Mullany: Mehefin

Ben a Catherine Mullany
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu saethu'n farw ar ddiwrnod ola'u gwyliau.

Daeth cadarnhad y bydd dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio cwpl o Gymru ar eu mis mêl yn dechrau'r wythnos nesaf.

Dywedodd barnwr yn Antigua y byddai Avie Howell a Kaniel Martin yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio pump o bobl ar yr ynys yn 2008.

Ymhlith y pump mae'r cwpl o Bontardawe, Catherine a Ben Mullany.

Fe fydd achos llofruddiaeth Mr a Mr Mullany a siopwr o Jamaica, Woneta Anerson Walker, 43 oed, yn dechrau Fehefin 1.

Mae'r ddau hefyd wedi eu cyhuddo o lofruddio myfyriwr coleg 24 oed, Rafique Kareem Harris, a Tony Louisa, peiriannydd 43 oed o Syria.

Diwrnod olaf

Roedd Mr a Mrs Mullany ar ddiwrnod olaf eu mis mêl.

Cafodd y ddau eu saethu'n farw mewn bwthyn ar draeth yn ne orllewin Antigua.

Roedd barnwr wedi penderfynu y byddai'n well cynnal mwy nag un achos.

Roedd erlynwyr yn Antigua yn siomedig oherwydd yr oedi, gan ddweud ei bod hi'n annheg i dystion a theuluoedd y dioddefwyr, yn enwedig y teulu o Gymru'n gan y bydden nhw'n teithio o dramor.

Roedd Catherine Mullany newydd gymhwyso fel meddyg a bu farw yn syth.

Aed â Ben Mullany i ysbyty yng Nghymru mewn ambiwlans awyr ond bu farw wythnos yn ddiweddarach ar ôl bod mewn coma.

Cafodd y ddau eu claddu ym mynwent yr eglwys lle oedden nhw wedi priodi tua mis yn gynt.



HEFYD
Llofruddio: Pennu dyddiad achos
18 Ion 11 |  Newyddion
Antigua: Dau i wynebu achos llys
16 Meh 09 |  Newyddion
Saethu ar fis mÍl: Ben wedi marw
03 Awst 08 |  Newyddion
Saethu ar fis mÍl: Gwraig yn marw
28 Gorff 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific