British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Mai 2011, 18:27 GMT 19:27 UK
AS yn enwi Ryan Giggs

Imogen Thomas a Ryan Gibbs
Imogen Thomas a Ryan Gibbs

Yn Nhŷ'r Cyffredin mae'r Aelod Seneddol, John Hemming, wedi dweud mai Ryan Giggs gafodd ei enwi ar Twitter fel y pêl-droediwr a sicrhaodd orchymyn llys ynghylch perthynas honedig gyda'r fodel o Lanelli, Imogen Thomas.

Gwnaeth Mr Hemming hynny yn ystod cwestiwn brys yn Nhŷ'r Cyffredin.

Defnyddiodd fraint Seneddol i dorri'r gwaharddiad gan ddweud na fyddai'n ymarferol i garcharu'r 75,000 o ddefnyddwyr gwefan Twitter sydd wedi cyhoeddi'r enw.

Mae papur newydd y Sun wedi methu yn ei drydedd ymgais i godi'r gwaharddiad yn yr Uchel Lys ddydd Llun.

Cyhoeddodd y Twrnai Cyffredinol Dominic Grieve fod y Prif Weinidog wedi gofyn i bwyllgor o Arglwyddi ac Aelodau Seneddol ymchwilio i'r defnydd o waharddiadau.

Twitter

Dros y Sul cyhoeddodd un o bapurau newydd Yr Alban, y Sunday Herald, enw Ryan Giggs.

Hwn oedd y papur neu gylchgrawn cyntaf i wneud hynny er bod amryw o wefannau cymdeithasol wedi crybwyll yr enw.

Dydd Sadwrn cafodd y wefan gymdeithasol Twitter orchymyn gan yr Uchel Lys i ddatgelu pwy oedd wedi torri gwaharddiad yn ymwneud â bywyd preifat pêl-droediwr proffesiynol.

Mae gan y wefan, sydd wedi ei lleoli yng Nghaliffornia, saith niwrnod i ymateb.

Galwodd David Cameron y sefyllfa yn un "anghynaladwy".

Yn y cyfamser mae miloedd o ddefnyddwyr y wefan Twitter wedi ymateb trwy ailadrodd enw'r pêl-droediwr ar-lein.

Daeth Imogen Thomas, cyn Miss Cymru, i sylw'r cyhoedd yn 2006 pan oedd ar y rhaglen deledu Big Brother.

Gall ei stori orfodi ail-ystyried gwerth ymarferol gwaharddiadau gyda chyfryngau newydd yn newid yn barhaus - mae angen, medd rhai, i'r gyfraith esblygu hefyd.



HEFYD
Papur yn enwi pl-droediwr
22 Mai 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific