British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Mai 2011, 12:59 GMT 13:59 UK
Bws newydd yn arbed pobl rhag dringo llethr serth

Tacsi
Bydd rhaid archebu'r bws tacsi o flaen llaw

Mae gwasanaeth bwstacsi newydd wedi dechrau yn Ninbych am fod ffyrdd yr ardal yn rhy serth i drigolion lleol.

Dywedodd aelod o Gyngor Sir Ddinbych, Sharon Frobisher, byddai rhaid monitro cost y gwasanaeth a gyflwynwyd yn dilyn ymgynghoriad yn 2010.

Bydd y bws yn cludo pobl sy'n byw yn ardaloedd Accar y Forwyn, Bryn Onnen, Maes yr Eglwys a Bryn Stanley.

Vale Taxis sy'n gyfrifol am y gwasanaeth archebu o flaen llaw.

Bydd dyfodol y gwasanaeth yn ddibynnol ar faint o bobl sy'n ei ddefnyddio
Sharon Frobisher

Bydd y gwasanaeth i ganol dref Dinbych o Ddydd Llun tan Ddydd Gwener rhwng 9.15am a 10.15am.

Bydd y bysiau tacsi yn cludo pobl yn ôl o'r dref am 10.10am, 11.10am a 12.10pm.

'Bryniog'

"Cawsom ymateb cadarnhaol iawn i'r syniad yn ystod y cyfnod ymgynghorol," meddai Ms Frobisher.

"Mae'r daith i'r dre neu hyd yn oed i ddal y bws lleol i'r dre yn un anodd.

"Yn ystod yr haf bydd rhaid inni fonitro sawl person sy'n defnyddio'r gwasanaeth."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific