British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Mai 2011, 11:00 GMT 12:00 UK
Bryant i gael gwrandawiad llawn

Chris Bryant AS
Mae Mr Bryant yn anhapus gydag ymateb yr heddlu

Mae pedwar dyn sy'n honni fod papur newydd wedi clustfeinio ar eu galwadau ffôn wedi ennill y cam diweddara yn eu brwydr gyfreithlon.

Ymhlith y pedwar mae AS Rhondda, Chris Bryant.

Y tri arall yw'r cyn ddirprwy brif Weinidog Arglwydd Prescott, cyn bennaeth Scotland Yard Brian Paddick a'r newyddiadurwr Brendan Montague.

Mae'r pedwar yn anhapus â'r modd wnaeth yr heddlu ymateb i'w cwynion.

Dywed y pedwar bod y digwyddiad wedi amharu eu hawliau dynol ac maent yn gofyn am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys.

Ddydd Llun penderfynodd Mr Justice Foskett y dylid cynnal gwrandawiad llawn i achos y pedwar.

Mae'r Heddlu yn ail-ymchwilio nôl i 2006 i achosion yn ymwneud â' News of The World.

Yn 2006 cafodd cyn olygydd brenhinol y papur Clive Goodman, a dyn arall eu carcharu am glustfeinio ar negeseuon ffôn oedd wedi eu gadael i staff brenhinol.

Dywed cwmni News International, sy'n berchen ar News of the World, eu bod yn cydweithio'n llawn gydag ymchwiliad yr heddlu.



HEFYD
Galw eto am ymchwiliad
09 Ebr 11 |  Newyddion
Clustfeinio: Ymddiheuriad papur
08 Ebr 11 |  Newyddion
Clustfeinio: adolygiad barnwrol?
13 Medi 10 |  Newyddion
'Gwrando ar fy ngalwadau ffn'
03 Medi 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific