British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 22 Mai 2011, 08:58 GMT 09:58 UK
Cleverly yn amddiffyn ei goron

Nathan Cleverly: "Dwi wedi bod yn breuddwydio am y noson hon ers yr o'n i'n 11 oed"
Nathan Cleverly: "Dwi wedi bod yn breuddwydio am y noson hon ers yr o'n i'n 11 oed"

Llwyddodd Nathan Cleverly i amddiffyn ei goron WBO pwysau is-drwm y byd nos Sadwrn.

Roedd y Cymro o Gefn Fforest ger y Coed-duon yn drech nag Aleksy Kuziemski o wlad Pwyl erbyn y bedwaredd rownd yn Llundain.

Ymddangosodd ei fod wedi torri trwyn Kuziemski yn yr ail rownd cyn agor cwt arall yng nghanol y bedwaredd rownd.

Gyda thipyn o waed ar wyneb Kuziemski, penderfynodd y dyfarnwr nad oedd modd iddo barhau.

Mae Cleverly nawr yn ddiguro mewn 22 gornest.

Gyda gwaed ar wyneb Kuziemski, penderfynodd y dyfarnwr nad oedd modd iddo barhau
Gyda gwaed ar wyneb Kuziemski, penderfynodd y dyfarnwr nad oedd modd iddo barhau

Cafodd Cleverly ei goroni'n bencampwr WBO is-drwm y byd ddydd Iau ar ôl y newyddion na fyddai'r pencampwr, yr Almaenwr Jurgen Brehmen, yn ymladd y Cymro nos Sadwrn gydag anaf i'w lygad.

Cafodd gornest arall ei threfnu ar fyr rybudd gyda Tony Bellew yn cynnig ei hun i ymladd yng nghanolfan yr O2 nos Sadwrn.

Ond wrth bwyso'r ddau focsiwr nos Iau, fe ddaeth hi'n amlwg fod Bellew fwy na hanner stôn dros yr uchafswm pwysau i ymladdwyr is-drwm.

Bu'n rhaid trefnu bocsiwr arall felly, a'r trydydd dewis oedd Aleksy Kuziemski o Wlad Pwyl, oedd yn rhif 11 ar restr detholion y WBO.

'Tynged'

Ar ôl y fuddugoliaeth, dywedodd Cleverly wrth y BBC:

"Roeddwn i'n teimlo mai dyma oedd fy nhynged.

"Dwi wedi bod yn breuddwydio am y noson hon ers yr o'n i'n 11 oed.

"Nawr dwi'n medru dweud mai Nathan Cleverly yw pencampwr is-drwm y byd."

Nathan Cleverly
Ymddangosodd ei fod wedi torri trwyn Kuziemski yn yr ail rownd




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific