British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 21 Mai 2011, 09:47 GMT 10:47 UK
Banc: Cyhuddo dyn 24 oed o ladrata

Banc Barclays ym Machynlleth
Cafodd y ffordd ei chau wedi'r digwyddiad ddydd Iau

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn 24 oed o Birmingham o ladrata, ar ôl i arian gael ei ddwyn oddi wrth swyddog diogelwch y tu allan i fanc.

Cafodd swm o arian ei ddwyn oddi wrth swyddog diogelwch wrth fynedfa Banc Barclays yn Heol Pentrerhedyn, Machynlleth am 11.45am ddydd Iau.

Cafodd y dyn ei arestio yn fuan wedi'r digwyddiad ac mae'r heddlu wedi dod o hyd i'r arian.

Mae'r heddlu'n parhau i chwilio am ddau ddyn arall mewn cysylltiad â'r lladrad.

Apêl

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Shane Williams: "Rydym yn chwilio am ddau ddyn gwyn sydd o dan amheuaeth.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un welodd y dynion yng nghyffiniau Canolfan Hamdden Flash ac Allt Gungrog yn y Trallwng rhwng 12.30pm a 5pm ddydd Iau i gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

"Mae'r dynion yn drwsiadus yr olwg ac yn eu dauddegau canol."

Llwyddodd y lladron i ddianc mewn car BMW du gafodd ei ollwng ym mhentref Llanwrin.

Wedyn fe yrron nhw gar Mercedes gwyn ac fe ddaeth yr heddlu o hyd i'r car hwnnw ger Canolfan Hamdden y Trallwng.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Daclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific