British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 22 Mai 2011, 08:27 GMT 09:27 UK
Byd bowlio Betty Morgan

Betty Morgan
Enillodd Mrs Morgan gystadleuaeth senglau'r byd a chystadleuaeth y byd i barau cymysg dros y Pasg

Mae menyw 68 oed o Landrindod, sydd ar fin dod yn hen fam-gu, newydd ennill dwy bencampwriaeth bowlio dan do'r byd.

Dros gyfnod y Pasg enillodd Betty Morgan gystadleuaeth senglau'r byd a chystadleuaeth y byd i barau cymysg gyda Carl Wood, 22, o Islwyn.

Yn ystod ei gyrfa 40 mlynedd mae hi wedi ennill tua 140 o gapiau dros Gymru, 15 o deitlau Prydeinig, 70 o deitlau Cymreig a llu o darianau.

Roedd yn anrhydedd mawr i dderbyn yr MBE o'r frenhines
Betty Morgan

Mae Mrs Morgan hefyd wedi cynrychioli Cymru dair gwaith yng Ngemau'r Gymanwlad a dywedodd fod hynny'n "fraint anhygoel".

Bu'n cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 1994, 1998 a 2002.

Wimbledon

Mae'n aelod o Glwb Bowlio Llandrindod ac enillodd ei chap Cymreig cyntaf yn 1976.

"Dwi wir wedi mwynhau fy ngyrfa fowlio ac oni bai am hyn fyddwn i ddim wedi gweld gwledydd fel Awstralia, Malaysia, Canada a De Affrica," meddai Mrs Morgan.

Betty Morgan
Ym 2005 derbyniodd Mrs Morgan yr MBE

"Fe ddechreuais i chwarae bowls ym 1972 tra oedd cystadleuaeth Wimbledon yn cael ei chynnal.

"Roedd cyrtiau tennis Llandrindod wastad yn llawn felly penderfynais i roi cynnig i fowlio.

"Wnes i fwynhau'r gêm o'r dechrau ac ymhen blwyddyn sylweddolais fod gen i ychydig o dalent."

Yn ôl Mrs Morgan uchafbwynt ei gyrfa hyd yn hyn yw ennill y fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad yn Melbourne yn 2006.

"Mae'n biti ges i ddim y cyfle i ymgeisio am fedal arall ym 2010 ond dywedodd swyddogion wrthyf fy mod yn rhy hen i gystadlu."

Ym 2005 derbyniodd Mrs Morgan yr MBE fel cydnabyddiaeth am ei gwasanaethau i fowlio.

"Roedd yn anrhydedd mawr i dderbyn yr MBE gan y frenhines," meddai Mrs Morgan sydd bellach wedi cael gwared â llawer o'i tharianau a thlysau.

"Bu farw fy ng?r, Russell, ym 2005 a phryd hynny penderfynais symud i fyw i fflat am fod ein cartref yn rhy fawr.

"Doedd gen i ddim digon o le ac felly fe daflais rhai i'r sgip, ond rwy'i wedi cadw'r tlysau pwysicaf."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific